El Kef

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa yng nghanol El Kef

Mae El Kef neu El-Kef (Arabeg: الكاف, Ffrangeg: Le Kef) yn ddinas hynafol yn Nhiwnisia a phrifddinas y dalaith o'r un enw.

Lleolir El Kef ("Y Graig" yn Arabeg) yng ngogledd-orllewin y wlad, 175 km i'r gorllewin o'r brifddinas Tiwnis a 40 km i'r dwyrain o'r ffin ag Algeria. Ers dyddiau'r Henfyd, El Kef yw prif ganolfan yr Haut-Tell a gogledd-orllewin Tiwnisia, gan fwynhau safle hyd yn ddiweddar iawn o fod yn ganolfan wleidyddol, crefyddol a milwrol i'r rhanbarth. Ar uchder o 780m ar ben ei graig drawiadol, El Kef yw tref uchaf y wlad o bell ffordd.

Rhennir y ddinas yn ddau délégation (cyngor lleol), sef Dwyrain Kef a Gorllewin Kef. Mae arwynebedd y dref yn 2500 hectar gyda 45 hectar o fewn muriau hynafol y medina. Mae 45,191 o bobl yn byw yno (cyfrifiad 2004).

Dominyddir El Kef ("Kef" i'r bobl leol) gan y kasbah (caer) nerthol ar gopa ysgwydd greigiog uchel sy'n ymestyn allan o lethrau deheuol Jebel Dir (1084m). Mae'r mynydd hwnnw yn ei dro yn tra-arglwyddiaethu ar y gwastadedd uchel o'i gwmpas ac yn olygfa drawiadol.

Mae strydoedd cul y medina, a dyfodd yng nghysgod yn kasbah, yn cynnwys sawl adeilad hanesyddol, e.e. Y Mosg Mawr, Mosg Sidi Boumakhlouf a Tourbet Ali Turki (beddrod sylfaenydd llinach yr Husseiniaid a reolodd Tiwnisia am 250 mlynedd hyd ei hannibyniaeth yn 1957), a synagog El-Ghriba. Yn ogystal ceir eglwys hynafol Sant Pedr a Sant Paul, sy'n dyddio i'r 4edd ganrif.

Hanes[golygu]

Mae gan El Kef hanes hir iawn. Ceir olion archaeolegol sy'n dangos fod pobl yn byw yno yn y Neolithig. Sefydlwyd dinas Sicca yno gan y Carthageniaid tua 500 CC. Daeth yn enwog am y puteiniaid teml yng nghysegrfan Astarte. Daliwyd y dref gan y brenin Numidiaidd Jugurtha ar ôl cwymp Carthage i'r Rhufeiniaid; defnyddiodd y brenin fynydd Bwrdd Jugurtha, a welir i'r de-orllewin o Kef, fel amddiffynfa yn ei ryfel saith mlynedd â Rhufain (112-105 CC). Dan yr Ymerodraeth Rufeinig, trowyd teml Astarte yn deml i'r dduwies Gwener a galwyd y dref yn Sicca Veneria, am ei bod yn gysegredig i Wener. Mae rhai o olion yr hen ddinas Rufeinig i'w gweld yng nghanol El Kef, ger y ffynnon sanctaidd Ras el-Aïn. Codwyd baddondai gan y Rhufeiniaid yn Hammam Mellegue, 15 km o'r Kef, sy'n dal i gael eu defnyddio heddiw.

Dilynwyd y Rhufeiniaid gan y Fandaliaid, am gyfnod byr, a'r Bysantiaid. Syrthiodd y dref i'r Arabiaid yn 688 a newidiwyd yr enw i Shaqbanaria (llygriad o 'Sicca Veneria'). Ond roedd y bobl leol, y Berberiaid, yn gwrthryfela'n gyson a bu El Kef yn annibynnol am lawer o'r amser tan i'r Otomaniaid gyrraedd yn yr 17eg ganrif. Ond blodeuodd Kef dan yr Otomaniaid ac ychwanegwyd sawl adeilad hardd i etifeddiaeth y dref.

El Kef oedd prifddinas dros dro Tiwnisia yn yr Ail Ryfel Byd. Yn y 1950au roedd hi'n ganolfan reoli'r FLN (Front de Libération Nationale) Algeriaidd yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Algeria yn erbyn Ffrainc.

Hinsawdd[golygu]

Am ei bod mor uchel i fyny, mae El Kef yn mwynhau tywydd cymhedrol yn yr haf ond yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gydag eira yn disgyn weithiau. Mae hi'n cael mwy o law na'r rhan fwyaf o lefydd yn Tiwnisia.

Dolenni allanol[golygu]