Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006
Lleoliad hen safle Gwaith Dur Felindre
Enillydd y Goron Eigra Lewis Roberts
Enillydd y Gadair Gwynfor ab Ifor
Gwobr Daniel Owen Gwen Pritchard Jones
Y Fedal Ryddiaith Fflur Dafydd
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Stuart Imm
Tlws y Cerddor Euron J. Walters

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006 ar hen safle Gwaith Dur Felindre ychydig oddi ar draffordd yr M4. Ymhlith pynciau llosg yr Eisteddfod oedd y penderfyniad i ddileu seremoni'r Cymru a'r Byd a bu cryn dipyn o feirniadu hefyd ar wyneb carregog y maes. Roedd y pafiliwn yn un pinc llachar yn wahanol i'r un arferol o streipiau glas a melyn. Roedd wedi ei gynllunio ar gyfer un o ymgyrchoedd elusen Gofal Cancr y Fron a chytunodd yr Eisteddfod i'w gael yn lle'r un arferol.

Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol Archesgob Caergaint Y Parchedicaf Dr Rowan Williams a anerchodd y gynulleidfa yng ngwasanaeth agoriadol yr Eisteddfod fore Sul. Mae Rowan Williams yn hannu o Abertawe.

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Tonnau Gwenno Gwynfor ab Ifor
Y Goron Fflam Gwyfyn Eigra Lewis Roberts
Y Fedal Ryddiaith Atyniad Matigari Fflur Dafydd
Gwobr Goffa Daniel Owen Dygwyn Eneidiau Ebolion Gwen Pritchard Jones
Tlws y Cerddor Dadeni Johannes Euron J. Walters

Enillydd y gadair oedd Gwynfor ab Ifor o Sling ger Tregarth a sgwennodd awdl ar y thema 'Tonnau'. Derbyniodd gadair a gwobr ariannol o £750.00. Dyluniwyd y gadair gan Elonwy Riley o Lansawel, Llandeilo ac fe'i gwnaethpwyd gan Tony Graham a Paul Norrington yng Ngholeg Sir Gâr.

Enillydd y goron oedd Eigra Lewis Roberts am ei gwaith 'Y Ffarwel Perffaith' a oedd am fywyd cythryblus Sylvia Plath. Y beirniaid oedd Menna Elfyn, Damian Walford Davies a Gwyneth Lewis. Roedd y goron wedi ei chyflwyno er cof am y cyn-Archdderwydd, Dafydd Rowlands. Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Fflur Dafydd o Gaerfyrddin am ei gwaith Atyniad. Y beirniaid oedd Derec Llwyd Morgan, Jane Aaron a Grahame Davies. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Gwen Pritchard Jones o Bant Glas. Dyma ei nofel gyntaf i oedolion. Enillydd Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn oedd Stuart Imm o Gwmbrân, sydd bellach yn diwtor Cymraeg.

Ffynonellau[golygu]

Clawr Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 2006

Gweler hefyd[golygu]