Eglwys Rydd Barhaus yr Alban

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Rydd Barhaus Stafain (Staffin)

Enwad Bresbyteraidd Albanaidd yw Eglwys Rydd Barhaus yr Alban (Gaeleg: An Eaglais Shaor Leantainneach, Saesneg: Free Church of Scotland (Continuing)) a sefydlwyd ym mis Ionawr 2000. Mae'n honni bod yn wir barhad o Eglwys Rydd yr Alban, ac felly mae'n defnyddio'r gair parhaus yn ei henw.

Sefydliad[golygu]

Yn 1996, cafwyd yr Athro Donald Macleod, pennaeth Coleg yr Eglwys Rydd yng Nghaeredin, yn ddieuog o gyhuddiadau o ymosodiad rhyw pan ddyfarnodd siryf fod cynllwyn wedi bod yn ei erbyn.[1] Roedd cymdeithas o'r enw The Free Church Defence Association yn gweld bai "am beidio â dwyn yr Athro Macleod i brawf yn y Gymanfa Gyffredinol ac felly mae'r mwyafrif wedi cefnu ar yr egwyddor mai'r Gymanfa Gyffredinol gyfan a ddylai ymchwilio i honiadau o gamymddwyn, yn hytrach na Phwyllgor y Gymanfa Gyffredinol".[2] Diarddelwyd cadeirydd yr FCDA, y Parch. Morris Roberts, am anufudd-dod fis Mehefin 1999 am wrthod tynnu ei gyhuddiad yn ôl fod y Gymanfa Gyffredinol ym mis Mai y flwyddyn honno yn nodweddiadol am ei "drygioni a['i] rhagrith dybryd ac anwelladwy".[1]

Ym mis Awst 1999, cyfeiriodd cylchgrawn yr FCDA at "ddrygioni diarddel Mr Roberts".[1][3] Dywedwyd i'r FDCA am ymwahanu erbyn 30 Tachwedd 1999, ond ni wnaeth hyn.[4] Paratowyd cyhuddiadau yn erbyn 22 o weinidogion a wrthododd gydymffurfio, ac mewn gwrandawiad gan Gomisiwn y Gymanfa Gyffredinol ar 19-20 Ionawr 2000, cyhoeddwyd y cyhuddiadau hynny'n berthnasol. [5] Diarddelwyd y 22 weinidog ac ymatebon nhw drwy adael y comisiwn. Ar 20 Ionawr 2000, fe sefydlwyd Eglwys Rydd Barhaus yr Alban pan dderbyniwyd datganiad "Declaration of Reconstitution of the historic Free Church of Scotland". [6] Er bod y rhwyg oherwydd Donald Macleod ar yr wyneb, awgryma Johnston McKay mai ynglŷn â diwinyddiaeth yr oedd mewn gwirionedd, a bod yn yr FCDA yn cynnwys "pobl sydd yn glynu’n fwy cadarn wrth Gyffes Westminster".[2]

Materion cyfreithiol[golygu]

Ar ôl ymadael â'r Eglwys Rydd, aeth yr Eglwys Rydd Barhaus o flaen y Llys Sesiwn, Goruchaf Lys Sifil yr Alban, i geisio perchnogaeth cronfa ganolog ac adeiladau'r Eglwys. Pan anfonwyd yr apêl i Dŷ Allanol y Llys Sesiwn, gwrthododd yr Arglwyddes Paton eu hachos, ond ni chaniataodd absolvitor,[5] sef, ni rwystrwyd yr Eglwys Rydd Barhaus rhag dod â'r achos gerbron y Llys eto. Ym mis Mawrth 2007, aeth Eglwys Rydd yr Alban i gyfraith yn An t-Àth Leathann (Broadford) ar An t-Eilean Sgitheanach (Skye) er mwyn adennill mans yr eglwys. Collodd yr Eglwys Rydd Barhaus yr achos yn y gwrandawiad cyntaf ar ddyfarniad yr Arglwydd Uist, [7] a hefyd eu hapêl i Dŷ Mewnol y Llys Sesiwn.[8]

Mynegodd yr Eglwys Rydd Barhaus ei bwriad i apelio yn erbyn y penderfyniadau hyn, ond yn 2009, nododd Cynhadledd Ryngwladol yr Eglwysi Diwygiedig i Eglwys Rydd Barhaus yr Alban "dynnu ei hapêl yn ôl ar fater sifil a oedd i ddod".[9]

Cydnabyddiaeth[golygu]

Aelod o International Conference of Reformed Churches[10] ac o Affinity yw'r enwad.[11]

Cynulledifaoedd[golygu]

Mae gan Eglwys Rydd Barhaus 33 o gynulleidfaoedd yn yr Alban, un yng Nghanada a chwech [12] yn yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â hyn mae dwy orsaf bregethu yn yr Unol Daleithiau ac athrofa a fferm arddangos yn Zambia. [13][14] 2,000 o aelodau sydd gan yr Eglwys [15] er bod y nifer sy'n mynychu'r eglwysi'n uwch. Mae'r eglwysi mwyaf yn Inbhir Nis, Caeredin a Steòrnabhagh (Stornoway), lle mae'r gynulleifa fwyaf.

Athrofa[golygu]

Mae Eglwys Rydd Barhaus yr Alban yn cynnal athrofa ar gyrion Inbhir Nis (Inverness) ar gyfer hyfforddi ei gweinidogion.

Lluniau[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Dolenni allanol[golygu]