Dyfrig Wynn Jones

Oddi ar Wicipedia
Dyfrig Wynn Jones
GanwydIonawr 1977 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Golygydd, newyddiadurwr a chyfarwyddwr teledu Cymreig yw Dyfrig Wynn Jones (ganwyd Ionawr 1977).

Gwaith[golygu | golygu cod]

Mae'n darlithio yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, yn arbenigo mewn Ymarfer a Theori'r Cyfryngau. Ei ddiddordebau ymchwil yw ffilmiau a rhaglenni dogfen, theori cynhyrchu, polisi'r cyfryngau, a chomics.

O fis Tachwedd 2006 i Fawrth 2009 ef oedd golygydd cylchgrawn Barn, a chyn hynny bu'n gweithio fel cynhyrchydd-gyfarwyddwr gyda Ffilmiau'r Bont sydd wedi'i leoli yng Nghaernarfon.

Roedd Dyfrig yn aelod o Bwyllgorau Cynnwys ac Archwilio a Rheoli Risg Awdurdod S4C.[1] Roedd hefyd rhwng 2011 a 2013, yn un o gyfarwyddwyr Awdurdod S4C (a'r canlynol: S4C Digital Media Ltd, S4C Masnachol Cyf, S4C Rhyngwladol Cyf ac S4C2 Cyf).[2]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Cafodd ei ethol fel cynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd yn 2008. Roedd yn cynrychioli ward Gerlan ond ni gystadlodd yn etholiadau Mai 2017.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]



Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.