Din Gwrygon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Din Gwrygon o'r gogledd

Mae Din Gwrygon (Saesneg: The Wrekin) yn fryn yn nwyrain Swydd Amwythig, rhwng Amwythig i'r gorllewin a Telford i'r dwyrain. Ei uchder yw 407m.

Ceir bryngaer Geltaidd 8 hectar ar ei gopa. Mae ar diriogaeth llwyth y Cornovii ac mae rhai archaeolegwyr wedi dadlau ei bod yn "brifddinas" i'r llwyth. Ei enw gwreiddiol oedd Uriconio neu Uriconion ym Mrythoneg, sy'n rhoi 'Gwrygon' yn Gymraeg a 'Wrekin' yn Saesneg. Credir iddi roi ei henw i ddinas Rufeinig Viroconium Cornovium, prifddinas y Cornovii yn y cyfnod Rhufeinig, tua 5 milltir i'r gorllewin (safle Wroxeter heddiw).

Mae rhai ysgolheigion yn cynnig Din Gwrygon fel lleoliad Pengwern, llys brenhinoedd cynnar teyrnas Powys, ond does dim sicrwydd am hynny (posiblrwydd arall yw safle tref Yr Amwythig heddiw).

Enw arall ar Din Gwrygon yng nghyfnod y Normaniaid oedd 'Mont Gilbert', ar ôl meudwy a aeth i fyw ar ei gopa.

Gweler hefyd[golygu]

Salop arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato