Dewi Llwyd

Oddi ar Wicipedia
Dewi Llwyd
GanwydDewi Llwyd Williams Edit this on Wikidata
26 Mawrth 1954 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd teledu, cyflwynydd radio Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Newyddiadurwr a darlledwr o Gymro yw Dewi Llwyd (ganwyd 26 Mawrth 1954)[1]. Mae'n un o gyflwynwyr amlycaf Cymru, wedi cyflwyno rhaglenni nosweithiol Newyddion S4C, rhaglenni etholiadol a chyfresi trafodaeth wleidyddol.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Dewi Llwyd Williams ym Mangor yn 1954. Roedd ei dad, y Parchedig Ifor Ll. Williams o Gwm Rhymni yn wreiddiol, yn weinidog gyda'r bedyddwyr ac yn gyn-löwr. Roedd ei fam Mary yn athrawes o Ddyffryn Conwy a briododd Ifor yn 1952. Magwyd Dewi yn Neiniolen a Threforys a setlodd y teulu yn y mans ar Ffordd Deiniol, Bangor cyn ei fod yn chwe mlwydd oed.[2] Mynychodd Ysgol Gynradd St. Paul ac Ysgol Friars yn y dref. Aeth ymlaen i astudio mewn prifysgol yng Nghaerdydd, Llundain ac yn ddiweddarach yn Washington D.C. gyda cyfnodau mewn colegau yn Ffrainc a Sbaen hefyd.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Fe ymunodd a'r BBC o ddiwedd 1979 fel gohebydd seneddol[4] ac fe roedd yn wyneb cyfarwydd iawn ar raglen Newyddion S4C ers y cychwyn.

Cyflwynodd y rhaglen drafodaeth wleidyddol Pawb a'i Farn ar S4C rhwng 1998 a 2019. Cyflwynodd ei sioe olaf ar 2 Tachwedd 2019 gan ddweud ei fod yn "teimlo bod fy nghyfnod i ar y rhaglen wedi dod i ben ac mae'n bryd trosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf".[5]

Ar ddiwedd 2012 gadawodd prif raglen newyddion S4C ac fe olynodd Gareth Glyn fel prif gyflwynydd y Post Prynhawn ar Radio Cymru.[6] Cyflwynodd ei rifyn olaf o'r Post Prynhawn ar 9 Hydref 2019.[7] Hefyd ar y radio roedd yn cyflwyno'r rhaglen Dewi Llwyd ar fore Sul a oedd yn cynnwys "adolygiadau o'r papurau Sul, gwestai pen-blwydd a cherddoriaeth hamddenol". Cychwynodd y rhaglen ar ddechrau 2008 a chyhoeddodd Dewi y byddai'n rhoi'r gorau i gyflwyno'r rhaglen ar ddiwedd 2021.[8]

Roedd hefyd yn llywio y rhaglen radio yn holi gwleidyddion, Hawl i Holi, ers 2008. Cyflwynodd ei rifyn cyntaf erioed o'r rhaglen o Ganolfan Bro Aled, Llansannan, a dyna hefyd leoliad ei rifyn olaf a ddarlledwyd yn fyw ar nos Iau 6 Gorffennaf 2023.[9]

Ers 2019 mae'n cyflwyno y rhaglen radio Dros Ginio bob dydd Llun a Gwener.[10]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae'n briod a Nia. Wedi priodi roedd y ddau yn byw yng Nghaerdydd ac am gyfnod roedd Dewi yn gweithio yn Llundain fel gohebydd seneddol. Yn Chwefror 1983, symudodd y teulu i fyw yn ardal y Garth ym Mangor.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Pen-blwydd Hapus Dewi Llwyd". BBC Cymru Fyw. 2024-03-26. Cyrchwyd 2024-03-26.
  2. 2.0 2.1 Llwyd, Dewi (2017). Pawb a'i Farn: Dyddiadur Dewi Llwyd. Y Lolfa. ISBN 9781784615116
  3.  Cristion - Dewi Llwyd. Cristion (Mawrth 1997). Adalwyd ar 11 Gorffennaf 2016.
  4. Dewi Llwyd
  5. Dewi Llwyd: 'Dwi'n teimlo'n gryf am rai pethau' , BBC Cymru Fyw, 1 Tachwedd 2019. Cyrchwyd ar 2 Tachwedd 2019.
  6. Cyflwynwyr newydd
  7.  Ar fy niwrnod ola’n cyflwyno’r #postprynhawn @BBCRadioCymru diolch o galon i’r cynhyrchwyr a’r gohebwyr i gyd, i’r llu o bobl o bob cwr o Gymru a’r byd sydd wedi cyfrannu i’r rhaglen, ac wrth gwrs i bawb sydd wedi gwrando yn ystod y saith mlynedd diwethaf! Mae wedi bod yn fraint!. Dewi Llwyd (9 Hydref 2019). Adalwyd ar 10 Hydref 2019.
  8. Dewi Llwyd yn rhoi’r gorau i gyflwyno ei raglen radio , Golwg360, 10 Hydref 2021.
  9. "Dewi Llwyd i gyflwyno rhaglen Hawl i Holi am y tro olaf". BBC Cymru Fyw. 2023-07-03. Cyrchwyd 2023-07-03.
  10. "Cyhoeddi rhaglen ginio newydd ar BBC Radio Cymru". BBC Cymru Fyw. 2019-09-11. Cyrchwyd 2023-07-03.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]