Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/John Huston

Oddi ar Wicipedia
Adda'r Yw/drafftiau/John Huston
John Huston ar set Chinatown ym 1972.


Cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, ac actor Americanaidd oedd John Marcellus Huston (5 Awst 190628 Awst 1987).

Bywyd cynnar (1906–31)[golygu | golygu cod]

Ganed John Marcellus Huston ar 5 Awst 1906 yn Nevada, Missouri, yn unig blentyn i Walter Huston a'i wraig Rhea, gynt Gore. Actor vaudeville o Ganada, o dras Albanaidd a Gwyddelig, oedd Walter, a roes y gorau i'r theatr er mwyn gweithio yn beiriannydd sifil. Wedi iddo mynd â'i deulu i weithio yn Texas ac Indiana, dychwelodd Walter Huston at actio ym 1909.[1] Newyddiadurwraig oedd Rhea, a gweithiodd yn ohebydd chwaraeon. Yn sgil ysgariad ei rieni, pan oedd yn 6 oed, treuliodd John ei blentyndod yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng ei dad, a fu ar deithiau vaudeville, a'i fam, yr hon a ddysgai iddo farchogaeth a betio ar rasys ceffylau.

Bachgen sâl oedd John yn aml, a chafodd ei drin am galon ordyfol a chlefyd yr aren pan oedd yn 12 oed. Er gwaethaf, tyfodd yn llanc cryf yn sgil dysgu i baffio yn Uwchysgol Lincoln Heights, Los Angeles. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed ac enillodd bencampwriaeth pwysau ysgafn amaturaidd Califfornia. Er iddo roi'r gorau i'w addysg ffurfiol, darllenwr brwd oedd John, a chafodd wersi paentio yn Los Angeles.[2] Symudodd i Ddinas Efrog Newydd ym 1924 i fod yn actor, a pherfformiodd gyda chwmni'r Provincetown Players yn Greenwich Village.[1] Aeth i Fecsico ym 1925, am ddwy flynedd, ac yno cafodd wersi marchogaeth gan swyddog yn y fyddin. Wedi iddo wario'i holl arian, a methu fforddio rhagor o wersi, derbyniodd Huston gomisiwn anrhydeddus i fod yn farchfilwr er mwyn derbyn hyfforddiant am ddim.[2]

Dychwelodd Huston i Efrog Newydd ym 1929 a chafodd waith yn ohebydd i bapur newydd y New York Graphic, gweithle ei fam. Dechreuodd ysgrifennu straeon byrion hefyd, gan gynnwys "Fool" a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn llenyddol The American Mercury, dan olygyddiaeth H. L. Mencken.[1] Bu rhai o erthyglau Huston i'r Graphic yn cynnwys gwallau ffeithiol, ac o'r herwydd cafodd ei ddiswyddo.[2]

Sefydlu ei hun yn Hollywood (1931–37)[golygu | golygu cod]

Aeth Huston i Hollywood ym 1931, lle'r oedd ei dad yn actio mewn ffilmiau sain (talkies) cynnar, a chafodd gontract i ysgrifennu i Samuel Goldwyn Productions. Wedi chwe mis heb yr un gorchwyl, ymddiswyddodd a symudodd i stiwdio Universal. Cyfrannodd at sgriptiau ddwy ffilm a oedd yn cynnwys ei dad Walter yn actor: A House Divided (1931) a Law and Order (1932), y ffilm gyntaf i bortreadu'r frwydr saethu yn yr O.K. Corral. Cyfrannodd hefyd ddialog at sgript Murders in the Rue Morgue (1932), addasiad o stori fer gan Edgar Allan Poe gyda Bela Lugosi yn y brif ran.

Yn ystod ei gyfnod cynnar yn Hollywood, enillodd Huston enw am yfed a mercheta.[2] Ym 1933 bu farw Tosca Izabel, gwraig yr actor Brasilaidd Raoul Roulien, pan gafodd ei tharo gan gar Huston ar Sunset Boulevard.[3] Er i reithgor y crwner ryddhau Huston o fai am y ddamwain, fe deimlodd yn hynod o euog a symudodd i Ludain. Ei fwriad i gychwyn oedd i geisio am swydd gyda'r stiwdio Gaumont,[1] ond yn hytrach aeth ar dramp yn Llundain a Pharis am flwyddyn gyfan bron. Ar ôl cyfnod yn paentio ym Mharis, dychwelodd i'r Unol Daleithiau a chafodd ambell swydd yn ysgrifennu a golygu sgriptiau ac yn actio yn Efrog Newydd a Chicago.[2]

Yr oes ddu-a-gwyn (1937–51)[golygu | golygu cod]

Dychwelodd John Huston i Hollywood yn niwedd 1937 a chafodd gontract sgriptio gyda Warner Bros. Cydweithiodd ar sgriptiau Jezebel (1938), The Amazing Dr. Clitterhouse (1938), a Juarez (1939). Ym 1940 cyfarwyddodd ei dad yn y ddrama A Passage to Bali ar Broadway. Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am y tro cyntaf drwy gyd-sgriptio, gyda Norman Burnstein a Heinz Herald, y ffilm fywgraffyddol Dr. Ehrlich's Magic Bullet (1940), a gyfarwyddwyd gan Dieterle gydag Edward G. Robinson yn portreadu'r meddyg Paul Ehrlich. Ym 1941 cydweithiodd Huston â W. R. Burnett i addasu un o nofelau Burnett, High Sierra, ar gyfer y cyfarwyddwr Raoul Walsh. Enwebwyd Huston eto, ar y cyd â Howard Koch, Abem Finkel, a Harry Chandlee, am Wobr yr Academi]] am eu sgript wreiddiol i Sergeant York (1941), a gyfarwyddwyd gan Howard Hawks gyda Gary Cooper yn portreadu Alvin C. York, un o filwyr Americanaidd enwocaf y Rhyfel Byd Cyntaf. Hon oedd y ffilm i ennill yr elw gros uchaf yn sinemâu'r Unol Daleithiau ym 1941.

Hysbyslun The Maltese Falcon.

Hefyd ym 1941 enillodd Huston gontract i gyfarwyddo addasiad newydd o'r nofel dditectif The Maltese Falcon gan Dashiell Hammett. Y film noir gynnar hon, The Maltese Falcon yw'r ffilm gyntaf a gyfarwyddwyd gan John Huston, ac efe ysgrifennodd y sgript yn ogystal. Cynhyrchwyd y ffilm mewn wyth wythnos am $300,000, gyda Humphrey Bogart, Mary Astor, Sydney Greenstreet, a Peter Lorre yn y brif rannau. Derbyniodd glod y beirniaid a'r cynulleidfaoedd, a fe'i ystyrir yn glasur ac yn un o'r ffilmiau gorau erioed. Cafodd ddau lwyddiant arall ym 1942, y felodrama In This Our Life gyda Bette Davis a'r ffilm ysbïo Across the Pacific gyda Humphrey Bogart. In 1942, he directed two more hits, In This Our Life, starring Bette Davis, and Across the Pacific, another Humphrey Bogart thriller. Wedi iddo gael ei alw i'r fyddin ym 1942, bu'n rhaid i Huston ildio cyfarwyddo Across the Pacific i Vincent Sherman.

Let There Be Light

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, galwyd Huston i'r lluoedd arfog a fe'i penodwyd yn gapten yng Nghorfflu Signalau'r Fyddin. Cyfarwyddodd bedair ffilm ddogfen ar gyfer Gwasanaeth Darluniadol y Corfflu Signalau. Ffilm am filwyr yn paratoi ar gyfer yr ymgyrch yn Ynysoedd Aleut, yng ngogledd y Cefnfor Tawel, yw Report from the Aleutians (1943). Cyfrannodd at y ffilm bropaganda Eingl-Americanaidd Tunisian Victory (1944), am Ymgyrch Torch yng Ngogledd Affrica, drwy ail-ffilmio golygfeydd o'r brwydro wedi i'r cwch a oedd yn cludo'r ffilm wreiddiol gael ei suddo. Cafodd Huston a'i griw eu hatodi i'r 143ain Gatrawd, 36ain Adran y Troedfilwyr, i ffilmio Brwydr San Pietro Infine yn yr Eidal yn Rhagfyr 1943, a oedd yn bwnc y ffilm The Battle of San Pietro (1945). Ei ffilm olaf yn ystod y rhyfel oedd Let There Be Light (1946), am gyn-filwyr mewn ysbyty seiciatrig yn Long Island, ymgais i hysbysu'r cyhoedd am "siel-syfrdandod" neu "straen ymladd" (yr hyn a elwir bellach anhwylder straen wedi trawma). Cafodd y ffilm ei gwahardd gan y fyddin oherwydd ei phortread emosiynol ac ysgytiol o gyflwr meddyliol y cyn-filwyr, a ni chafodd ei dangos yn gyhoeddus nes 1981. Dyrchafwyd Huston yn uwchgapten erbyn diwedd y rhyfel, a gwobrwywyd iddo y Lleng Teilyngdod am ffilmio ar faes y gad.

Yn sgil diwedd y rhyfel, gweithiodd Huston ar sgriptiau i ddwy film noir o nod a ryddhawyd ym 1946: The Killers, a gyfarwyddwyd gan Robert Siodmak ac yn serennu Burt Lancaster ac Ava Gardner, a The Stranger gydag Edward G. Robinson, Loretta Young, ac Orson Welles, wedi ei chyfarwyddo gan Welles. Ym 1946 hefyd cyfarwyddodd Huston y ddrama ddirfodol No Exit gan yr athronydd Jean-Paul Sartre yn Broadway. Ym 1947, mewn ymateb i ymgyrch Pwyllgor Gweithgareddau Anamericanaidd Tŷ'r Cynrychiolwyr (HUAC) yn erbyn comiwnyddion yn Hollywood, sefydlwyd y Pwyllgor dros y Gwelliant Cyntaf gan Huston, y cyfarwyddwr William Wyler, a'r sgriptiwr Philip Dunne. Ymunodd Huston â'r ddirprwyaeth o'r diwydiant ffilm a deithiodd i Washington, D.C. i gefnogi'r rhai oedd yn tystio o flaen yr HUAC. Anghytunai Huston ac aelodau eraill y ddirprwyaeth ag ymddygiad ymosodol y rhai a elwid y "Hollywood Ten", ond daliodd at ei wrthwynebiad i'r gwrandawiadau.

Llun o The Treasure of the Sierra Madre. O'r chwith i'r dde: Bruce Bennett, Tim Holt, Humphrey Bogart, Walter Huston.

Dychwelodd Huston at gyfarwyddo yn Hollywood gyda'r clasur The Treasure of the Sierra Madre (1948), addasiad o nofel antur gan B. Traven, a ffilmiwyd ym Mecsico. Stori ydyw am dri ddyn, a bortreadwyd gan Humphrey Bogart, Tim Holt, a Walter Huston, yn chwilota am aur. Methiant a fu'r ffilm yn ariannol, o bosib oherwydd ei diweddglo anhapus, ond enillodd John Huston Wobrau'r Academi am y cyfarwyddwr gorau a'r sgript orau, ac enillodd ei dad Walter y wobr am yr actor gorau mewn rhan gefnogol. Llun fawr arall y flwyddyn honno, ac eto gyda Bogart, oedd Key Largo (1948), addasiad gan Huston a Richard Brooks o ddrama drosedd ingol gan Maxwell Anderson. Mae'r ffilm hon, sy'n cyd-serennu Lauren Bacall ac Edward G. Robinson, a chyda Lionel Barrymore a Claire Trevor mewn rhannau cefnogol, bellach yn glasur yn genre'r film noir. Cyfarwyddodd Huston hefyd y stori antur We Were Strangers (1949) am chwyldroadwyr sydd yn ceisio dymchwel llywodraeth yr Arlywydd Gerardo Machado yng Nghiwba ym 1933.

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Britannica
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 (Saesneg) Peter B. Flint, "John Huston, Film Director, Writer and Actor, Dies at 81", The New York Times (29 Awst 1987). Adalwyd ar 24 Chwefror 2021.
  3. (Saesneg) "Huston cleared in death", Los Angeles Times (29 Medi 1933). Adalwyd ar wefan newspapers.com ar 24 Chwefror 2021.