Paffio

Oddi ar Wicipedia
Paffio
Enghraifft o'r canlynolmath o chwaraeon, chwaraeon i wylwyr Edit this on Wikidata
Mathcombat sport, chwaraeon olympaidd Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysamateur boxing, professional boxing Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Gornest rhwng dau gystadleuydd yw paffio. Yn gyffredinol, mae'r cystadleuwyr yn debyg o ran pwysau ac maent yn ymladd yn erbyn ei gilydd gan ddefnyddio'u dyrnau. Goruchwylir y chwaraeon dan ddyfarnwr a gan amlaf ceir cyfres o ymladdfeydd sy'n para am dair munud. Gelwir yr ymladdfeydd hyn yn "rowndiau". Mae yna dair ffordd o ennill. Ceir buddugoliaeth os yw'r gwrthwynebwr yn cael ei daro i'r llawr a'i fod yn methu codi cyn i'r dyfarnwr gyfri i ddeg (yn Saesneg: Knockout neu KO). Daw buddugoliaeth hefyd os yw'r gwrthwynebydd wedi'i anafu'n ormodol i fedru parhau â'r ornest ("Knockout Technegol"). Os nad yw'r ornest yn stopio cyn nifer penodol o rowndiau, penderfynir ar enillydd naill ai gan benderfyniad y dyfarnwr neu gardiau sgorio'r beirniaid.

Bocsio amatur ym Mhorthaethwy, 1963; llun gan Geoff Charles
Paffio yn 1907
Eginyn erthygl sydd uchod am baffio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.