Dduallt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cyfesurynnau: 52°50′N 3°46′W / 52.83°N 3.77°W / 52.83; -3.77
Dduallt
(Arenig)
Arenig Fawr a Moel Llyfnant oddi wrth copa Dduallt.
Cyfieithiad
Iaith Cymraeg
Testun y llun Arenig Fawr a Moel Llyfnant oddi wrth copa Dduallt.
Uchder (m) 662
Uchder (tr) 2172
Amlygrwydd (m) 138
Lleoliad rhwng y Bermo a Betws-y-Coed a'r Bala
Map topograffig Landranger 124 125;
Explorer 23E
Cyfesurynnau OS SH810273
Gwlad Cymru
Dosbarthiad Hewitt, Nuttall a HuMP
Dduallt is located in Cymru
Dduallt (Cymru)

Mynydd yn ne Gwynedd yw'r Dduallt (Cyfeirnod OS: SH810273). Saif i'r dwyrain o gopa uwch Rhobell Fawr, i'r de-orllewin o bentref Llanuwchllyn ac i'r gogledd o'r briffordd A494 rhwng Dolgellau a Llanuwchllyn. Ar ei lethrau dwyreiniol, ceir tarddle afon Dyfrdwy. Ei uchder yw 662 metr: cyfeiriad grid SH810273. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 524metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Gellir ei ddringo ar hyd llwybrau o bentrefi Rhydymain neu Llanfachreth, fel rheol fel rhan o daith sy'n cynnwys copa Rhobell Fawr hefyd.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 662m (2172tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.

Gweler hefyd[golygu]

Dolennau allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]