Castell Trefynwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Castell yn nhref Trefynwy, Sir Fynwy ydy Castell Trefynwy.

Lleoliad[golygu]

Mae Castell Trefynwy wedi ei leoli yn agos i ganol tref Trefynwy ar fryn sydd y tu ôl i'r siopau, y prif sgwâr a'r strydoedd ac yn edrych dros Afon Mynwy. Ar un adeg bu'n gastell pwysig oherwydd ei leoliad ar y ffin, roedd yn sefyll tan Rhyfel Cartref Lloegr pan gafodd ei ddifrodi gan newid dwylo dair gwaith. Pan ymwelodd Oliver Cromwell â'r castell yn 1646 gorchmynoodd ei fod yn cael ei dynnu i lawr rhag ei ddefnyddio gan gefnogwyr y Brenin. Ar y 30ain o Fawrth 1647 gwnaeth y trefwyr a'r milwyr ddechrau tynu'r cerrig oddi ar y Tŵr Crŵn Mawr ac fe'i dymchwelwyd yn ddiweddarach

Castell ffin Normanaidd cynnar[golygu]

Fe'i adeiladwyd gan William FitzOsbern, Iarll cyntaf Henffordd, yr adeiladwr castyll, oddeutu 1067-1071 ac yn rhannu'r un nodweddion i Gastell Cas-gwent, un arall o ddyluniwyd gan FitzOsbern ymhellach i'r de ar Afon Gwy yn Sir Fynwy.

I ddechrau, roedd Castell Trefynwy yn eithaf nodweddiadol o gapel ffin syml y Mers, gyda un o Arlwyddi'r Mers yn tra aglwyddiaethu drosto, ac yn debyg o ran arddull a statws i'w gymdogion; Castell y Grysmwnt, Castell Ynysgynwraidd, Castell Gwyn neu Gastell y Fenni.

Ehangu[golygu]

Yn 1267, pasiodd Castell Trefynwy i ddwylo Edmund Crouchback (1245-1296), Iarll Caerhirfryn a mab brenin Harri III o Loegr, a ailddatblygodd y castell a'i ehangu fel ei brif breswylfa yn yr ardal. Cafodd ei wella hefyd gan Henry o'r Grysmwnt, Dug 1af Caerhirfryn (1310-1361).

Roedd y castell yn un o hoff gartrefi Henry Bolingbroke, a ddaeth yn ddiweddarach yn Frenin Harri IV. Yma yn 1387 y ganwyd Brenin Harri V o Loegr, i wraig gyntaf Bolingbroke, Mary de Bohun .

Owain Glyndŵr[golygu]

Ni effeithiwyd yn uniongyrchol ar Castell Trefynwy yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr gan ei fod yn gadarnle i'r rhanbarth a bod targedau llai yn fwy deniadol i'w hymosod arnynt.