Caradog o Lancarfan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Clerigwr Cymreig ac awdur yn yr iaith Ladin oedd Caradog o Lancarfan (bu farw c. 1156). Credir mai ef oedd awdur bucheddau'r seintiau Gildas a Cadog; mae rhai cyfeiriadau ynddynt yn awgrymu ei fod yn gyfarwydd a Glastonbury yn ogystal a Llancarfan.

Traddodiad[golygu]

Mae cyfeiriad ato gan Sieffre o Fynwy yn ei ffug-hanes Historia Regum Britanniae, sef Brut y Brenhinedd (tua 1135); wedi iddo drafod y cyfnod hyd 689 mae'n awgrymu fod Caradog yn ysgrifennu hanes Cymru o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Nid oes tystiolaeth ei fod wedi gwneud hynny. Cysylltir ef ag ysgrifennu Brut y Tywysogion gan rai awduron, ond nid oes tystiolaeth o hyn, ychwaith.

Ar sail y cyfeiriad ato gan Sieffre, lluniodd Iolo Morganwg destun Brut Aberpergwm a'i dadogi ar Garadog o Lancarfan. Cyhoeddwyd y testun yn y Myvyrian Archaiology of Wales a chamarweinwyd nifer o bobl gan y fersiwn Morgannwg-ganolog o hanes Cymru'r Oesoedd Canol a geir ynddo.[1]

Testunau[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tt. 3-4.