Aberpergwm

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Plasdy yng Nglyn Nedd yw Aberpergwm, a fu'n un o ganolfannau diwylliannol mawr Morgannwg am ganrifoedd ac a fu'n enwog am ei nawdd i'r beirdd ac am ei gasgliad o lawysgrifau.

Hanes[golygu]

Roedd Aberpergwm yn gyrchfan i'r beirdd a chedwir ar glawr canu mawl i bedair cenhedlaeth o'i benteuluoedd. Diau fod y traddodiad nawdd yno yn hŷn, ond y noddwr hysbys cyntaf oedd Rhys ap Siancyn (bl. 1430-50). Roedd Rhys yn medru olrhain ei achau yn ôl i Einion ap Collwyn, pennaeth o Wynedd a symudodd gyda'i wŷr i Forgannwg yn yr 11eg ganrif; roedd ei ddisgynyddion yn cynnwys noddwyr a beirdd ledled Morgannwg. Y noddwr pwysicaf yn Aberpergwm oedd ŵyr Rhys ap Siancyn, sef Rhys ap Siôn.[1]

Adfeilion plasdy Aberpergwm (2010).

Canodd y rhan fwyaf o feirdd canoloesol hysbys Morgannwg i deulu Aberpergwm. Roedd y beirdd hyn yn cynnwys Iorwerth Fynglwyd a Deio ab Ieuan Du. Daw'r llinell adnabyddus honno am y Ddraig Goch mewn cywydd gan Deio ab Ieuan Du i ddiolch i Siôn ap Rhys o Aberpergwm am darw coch; y tarw yw'r "ddraig" (trosiad am ryfelwr). Dyma'r cwpled am y "ddraig" (a'r fuwch sy'n ei disgwyl) sy'n dangos fel y cafodd y llinell enwog ei thynnu allan o'i gyd-destun:

Y ddraig goch ddyry cychwyn
Ar ucha'r llall ar ochr llwyn.[2]

Gwyddys fod Aberpergwm yn gartref i gasgliad pwysig o lawysgrifau Cymraeg a Lladin. Mae un o gerddi Guto'r Glyn i Rhys ap Siancyn yn cyfeirio at "gronicl" (Brut y Tywysogion, efallai), bucheddau'r seintiau, llyfrau achau, trioedd, chwedlau a rhai o weithiau'r Gogynfeirdd, yn cynnwys cerddi Cynddelw Brydydd Mawr.[3]

Erbyn y 18fef ganrif roedd Aberpergwm yn gartref i Rees Williams (m. 1812). Mae lle i ystyried mai ef oedd yr olaf yng Nghymru i gyflogu bardd teulu, sef Dafydd Nicolas.

Ar ôl cyfnod fel ysgol breifat, llosgwyd y plasdy rywbryd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae'n adfail erbyn hyn.

Brut Aberpergwm[golygu]

Daeth Aberpergwm yn enw cyfarwydd yng Nghymru a'r tu hwnt yn y 19eg ganrif diolch i un o ffugiadau mawr Iolo Morganwg. Lluniodd fersiwn honedig o Frut y Tywysogion a'i alw yn Frut Aberpergwm. Seiliodd Iolo ei ffugwaith ar lawysgrif ddilys a fu'n eiddo teulu Aberpergwm, ond newidiodd y testun yn sylweddol ac ychwanegu deunydd o'i ben a'i bastwn ei hun. Tadogodd y cyfan ar Garadog o Lancarfan. Fel gweddill ffugiadau llenyddol a hynafiaethol Iolo, mae'r cronicl yn rhoi lle amlwg iawn i Forgannwg yn hanes Cymru'r Oesoedd Canol. Cafodd ei argraffu yn y Myvyrian Archaiology of Wales.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tud. 3-4 et seq..
  2. A. Eleri Davies (gol.), Gwaith Deio ab Ieuan Du a Gwilym ab Ieuan Hen (Caerdydd, 1992).
  3. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tud. 21.
  4. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tt. 3-4, 8.