Cairn Gorm
| Cairn Gorm (Mynyddoedd y Cairngorms) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | Y mynydd glas (neu wyrdd) |
| Iaith | Gaeleg yr Alban |
| Testun y llun | Cairn Gorm o gopa cyfagos |
| Uchder (m) | 1244 |
| Uchder (tr) | 4081 |
| Amlygrwydd (m) | 146 |
| Lleoliad | Ucheldiroedd yr Alban |
| Map topograffig | Landranger ;36 Explorer 403S |
| Cyfesurynnau OS | NJ005040 |
| Gwlad | yr Alban |
| Dosbarthiad | Munro, Murdo a HuMP |
Mynydd yn y Cairngorms yn nwyrain Ucheldiroedd yr Alban yw Cairn Gorm (Gaeleg: An Càrn Gorm, "y garnedd las"); cyfeiriad grid NJ005040. Rhoddodd ei enw i'r mynyddoedd hyn, er mai Am Monadh Ruadh yw'r enw Gaeleg arnynt. Er gwaethaf yr enw, Ben Macdhui gerllaw yw copa uchaf y Cairngorms.
Ceir carnedd ar y copa.
Saif gerllaw ardal Strathspey a thref Aviemore. Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau; yr hawddaf yw o faes parcio Coire Cas ger Canolfan Sgïo Cairngorm. Datblygwyd y ganolfan sgïo o'r 1960au ymlaen, a hi yw'r ail-fwyaf yn yr Alban ar ôl Glenshee. Yn ddiweddarach, agorwyd Rheilffordd Fynydd y Cairngorm sy'n mynd a sgïwyr ac eraill bron i'r copa.
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Munro, Murdo a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o gopaon yr Alban dros 610 metr
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)
Dolennau allanol [golygu]
- Lleoliad ar wefan Streetmap
- [300519 Lleoliad ar wefan Get-a-map]