Ben Macdhui
| Ben Macdui (Mynyddoedd y Cairngorms) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | Daw'r enw o deulu'r Iarll Donnchad II a enillodd frwydr yn yr ardal yma yn 1187. |
| Iaith | Gaeleg yr Alban |
| Testun y llun | Ben Macdhui o gopa cyfagos |
| Uchder (m) | 1309 |
| Uchder (tr) | 4295 |
| Amlygrwydd (m) | 950 |
| Lleoliad | Ucheldiroedd yr Alban |
| Map topograffig | Landranger ;36 43 Explorer 403S |
| Cyfesurynnau OS | NN988989 |
| Gwlad | yr Alban |
| Dosbarthiad | Marilyn, Munro, Murdo, HuMP |
Mae Ben Macdui, hefyd Ben Macdhui neu Beinn Mac Duibh yn gopa mynydd a geir ym mynyddoedd y Cairngorms yn Ucheldiroedd yr Alban; cyfeiriad grid NN988989. Saif ger y ffîn rhwng Swydd Aberdeen a Moray. Dyma ail fynydd uchaf gwledydd Prydain ar ôl Ben Nevis. Gellir ei ddringo ar hyd nifer o lwybrau; yr hawddaf yw o faes parcio Coire Cas ger Canolfan Sgïo Cairngorm, sy'n daith o tua 7 km (4 millir) i'r copa. Gellir ymweld a chopa Cairn Gorm ar y ffordd.
Cyn cynhyrchiad mapiau manwl o'r Alban yn y 19eg ganrif, ni wyddid yn sicr mai Ben Nevis oedd pwynt uchaf Prydain, a chredid yn aml y gallai Ben Macdui ei fod. Wedi'r cadarnhad mai Ben Nevis oedd yr uchaf, roedd gan rai bobl leol gynlluniau i adeiladu carnedd ar gopa Ben Macdui o uchder digonol er mwyn iddo fod yn uwch na Ben Nevis, er na chwblhawyd y cynlluniau hynny.
Ceir piler triongl yr OS ger y copa.
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Munro, Murdo ac yn HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Gwneir bob ymdrech i ganfod yr enw yn yr iaith wreiddiol, a gwerthfawrogwn eich cymorth os gwyddoch yr enw Gaeleg.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr o gopaon yr Alban dros 610 metr
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)
Dolennau allanol [golygu]
- Lleoliad ar wefan Streetmap
- [298898 Lleoliad ar wefan Get-a-map]