Cairngorms
Oddi ar Wicipedia
Mynyddoedd yn rhan ddwyreiniol Ucheldiroedd yr Alban yw'r Cairngorms (Gaeleg: Am Monadh Ruadh, "y mynyddoedd rhudd" neu "goch"). Enwyd y mynyddoedd yn Saesneg ar ôl copa Cairn Gorm ("y garnedd las").
Mae'r mynyddoedd yn ymestyn o Aviemore yn y gogledd-orllewin hyd Braemar a Glen Feshie yn y de-ddwyrain.
Y Cairngorms yw'r parc cenedlaethol mwyaf yn Mhrydain Fawr, gyda ardal o 3800 km2.
Y mynyddoedd uchaf yn y Cairngorms yw:
- Ben Macdhui (1309 m)
- Braeriach (1296 m)
- Cairn Toul (1293 m)
- Sgor an Lochain Uaine (1258 m)
- Cairn Gorm (1245 m)
Heblaw'r rhain, ceir 13 Munro (copa dros 3,000 troedfedd) arall yma.
Y Cairngorms o fynyddoedd y Grampian