Cyngor yr Ucheldir

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ardal Cyngor yr Ucheldiroedd

Ardal Cyngor yr Ucheldir (Gaeleg: Sgìre Comhairle na Gàidhealtachd, Saesneg: Highland Council) yng ngogledd yr Alban yw'r fwyaf o ran arwynebedd o holl raniadau llywodraeth leol yr Alban a Phrydain o bell ffordd (arwynebedd 30,659 km², cymharer: Cymru gyfan 20,779 km²).

Castell Eilean Donan yn Loch Duich.

Nid yw'r ardal a reolir gan y Cyngor yn cyfateb i ardal ddaearyddol Ucheldiroedd yr Alban. Mae rhannau o ardal ddaearyddol yr Ucheldiroedd yn dod dan awdurdodau Moray, Swydd Aberdeen, Perth a Kinross, Argyll a Bute, Angus a Stirling. Mae ardal y Cyngor yn cynnwys y rhan fwyaf o Ynysoedd Mewnol Heledd.

Crewyd y Cyngor fel awdurdod rhanbarthol yn 1975, a daeth yn awdurdod unedol yn 1996. Y brif dref yw Inverness.