Bwlch Sant Bernard Bach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Col du Petit Saint Bernard
Yr Alpau
Golygfa o'r cylch cerrig sy'n cael ei groesi gan y ffordd. Mae olion amddiffynfeydd yr Ail Ryfel Byd i'w gweld hefyd.
Llun Golygfa o'r cylch cerrig sy'n cael ei groesi gan y ffordd. Mae olion amddiffynfeydd yr Ail Ryfel Byd i'w gweld hefyd.
Uchder 2188m
Lleoliad Savoie
Gwlad Ffrainc/Yr Eidal

Lleolir Bwlch Sant Bernard Bach (Ffrangeg: Col du Petit Saint-Bernard, Eidaleg: Colle del Piccolo San Bernardo) yn yr Alpau, ar y ffin rhwng Ffrainc a'r Eidal, sy'n cwrdd ar ben y bwlch, sydd 2188 metr uwchben lefel y môr. Lleolir ochr orllewinol y bwlch yn ardal Savoie, Ffrainc, i'r de o massif Mont Blanc. Ceir hefyd Bwlch Sant Bernard Mawr a Bwlch San Bernardino.

Ar y bwlch ceir cylch cerrig sy'n mesur 72 medr (236 troedfedd) ar ei draws. Mae wedi cael ei ddifrodi i ryw raddau gan y ffordd sy'n rhedeg trwyddo a bu maen hir yn ei chanol ar un adeg. Nid yw'r cylch wedi cael ei ddyddio'n fanwl gywir ond mae darnau arian wedi eu canfod o'i amgylch sy'n dyddio o Oes yr Efydd. Mae'n bosibl mai safle seremonïol y diwylliant Tarentaisiaidd (tua 725 CC–450 CC) oedd hi. Yn ddiweddarach, codwyd teml Rufeinig gerllaw a gysegrwyd i'r duw Iau, ynghyd â mansio Rhufeinig a oedd yn gwasanaethu teithwyr dros y bwlch; credir gan rai i'r cadfridog Carthaginaidd, Hannibal ddefnyddio'r llwybr hwn pan groesodd yr Alpau i ymosod ar Rufain (ond mae eraill yn credu iddo groesi'r Alpau Cotaidd ymhellach i'r de).

Adnewyddwyd y cylch cerrig yn rhannol yn ystod y 19eg ganrif.

Yr esgyniad[golygu]

O Bourg-Saint-Maurice i'r de-orllewin, mae'r Col du Petit Saint-Bernard yn 26.5 km o hyd. Mae'r esgyniad yn 1,348 m (4,423 troedfedd) o'r ochr hon, â graddfa ar gyfartaledd o 5.1%, a'r darnau mwyaf syrth yn 8.1% ar waelod yr allt. Mae'r 15.5 km (9.6 milltir) cyntaf i La Rossiere yn ffurfio rhiw Montée d'Hauteville.

O Prè-Saint-Didier (yn Nyffryn Aosta, gogledd-orllewin yr Eidal), mae'r Colle del Piccolo San Bernardo yn 23.5 km (14.6 milltir) o hyd o'r ochr hwn. Mae'r esgyniad yn 1,184 m (3,885 troedfedd) â graddfa ar gyfartaledd o 5%.

Tour de France[golygu]

Croeswyd Bwlch Sant Bernard Bach gan y Tour de France am y tro cyntaf yn 1949 ac mae wedi bod ar lwybr y ras sawl gwaith ers hynny.

Blwyddyn Cymal Categori Arweinydd ar y copa
1949 17 2 Gino Bartali
1959 18 1 Michele Gismondi
1963 17 2 Federico Bahamontes
2009 16 1 Franco Pellizotti

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: