Brut y Saeson

Oddi ar Wicipedia
Brut y Saeson
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol, llawysgrif Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi14 g Edit this on Wikidata
Prif bwncHanes Prydain, Sacsoniaid Edit this on Wikidata

Mae Brut y Saeson (hefyd Brut y Saesson) yn gronicl Cymraeg sy'n amlinellu'r cyfnod rhwng marwolaeth Cadwaladr ap Cadwallon a theyrnasiad Rhisiart II o Loegr (1377–99).

Fe'i ceir mewn tri chopi canoloesol sy'n perthyn yn agos i'w gilydd: Aberystwyth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru Peniarth 19, Peniarth 32 a Rhydychen, Coleg yr Iesu 111 (Llyfr Coch Hergest).[1] Mae copi Peniarth 19 yn dodi ben yn y flwyddyn 979.

Mae'r hanesydd Huw Pryce wedi disgrifio'r testun fel a ganlyn: 'a striking witness to how long-established notions in Wales of the Britons' loss of sovereignty over Britain could sustain an interest in English as well as Welsh history'.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Rhŷs, John; Evans, J. Gwenogvryn, gol. (1890). The Texts of the Bruts from the Red Book of Hergest. Oxford: Evans. tt. 385–403.
  2. Pryce, Huw (2020). "Chronicling and its Contexts in Medieval Wales". In Guy, Ben; Henley, Georgia; Jones, Owain Wyn; Thomas, Rebecca (gol.). The chronicles of Medieval Wales and the March: new contexts, studies, and texts. Medieval texts and cultures of northern Europe. Turnhout, Belgium: Brepols. t. 23. doi:10.1484/M.TCNE-EB.5.116607. ISBN 978-2-503-58350-1.

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]