Brenhinoedd Macedon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr oedd Macedon (a adnabyddir hefyd fel Macedonia) yn deyrnas hynafol â'i chanolfan yn rhanbarth bresennol Macedonia yng ngogledd Gwlad Groeg, cartref y Macedoniaid hynafol; ar adegau o'i hanes roedd y deyrnas yn cynnwys rhannau o wledydd presennol Gwlad Groeg, Gweriniaeth Macedonia, Albania, Bwlgaria a Thrace. Daeth i ddominyddu'r Roeg hynafol yn y 4edd ganrif CC, pan lwyddodd Philip II i orfodi'r dinas-wladwriaethau Groeg, fel Athen a Thebes, i ffurfio Cynghrair Corinth. Aeth mab Philip, Alecsander Fawr, ymlaen i oresgyn Ymerodraeth Persia. Er i deyrnas Macedon golli reolaeth ar daleithiau Ymerodraeth Persia, parhaodd i ddominyddu Gwlad Groeg ei hun nes iddi gael ei gwncweru gan Weriniaeth Rhufain yn Rhyfeloedd Macedonia (215 - 148 CC) a dod yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig ar ôl hynny.

Brenhinllin Argead[golygu]

Brenhinllin Antipatrid[golygu]

Brenhinllin Antigonid[golygu]

Ar ôl i Perseus golli Brwydr Pydna yn 168 CC, rhanwyd Macedon yn bedair gweriniaeth dan ddominyddiaeth Rhufain. Yn 150 CC, hawliodd dyn o'r enw Andriscus ei fod yn fab i Perseus, a hawliodd y goron fel Philip VI. Arweiniodd hyn at Bedwerydd Ryfel Macedonia a arweiniodd at droi Macedon yn dalaith Rhufeinig yn 146 BC.

Dolenni allanol[golygu]