Perdiccas

Oddi ar Wicipedia

Cadfridog Macedonaidd dan Alecsander Fawr, ac yn ddiweddarach rheolwr teyrnas Macedon, oedd Perdiccas, Groeg: Περδίκας, Perdikas (bu farw 321 CC neu 320 CC).

Yn ôl yr hanesydd Arrian roedd yn fab i Orontes. Daeth i sylw yn ystod concwest Thebai yn 335 CC, pan glwyfwyd ef yn ddifrifol. Roedd yn bennaeth rhan o'r fyddin yn ystod ymgyrchoedd Alecsander yn India, a phan fu farw Hephaestion yn 324 CC penodwyd ef yn bennaeth marchogion y Cymdeithion.

Wedi marwolaeth Alecsander, yn Rhaniad Babilon, cytunodd cadfridogion Alecsander i dderbyn Philip III, hanner brawd Alecsander, yn frenin, ar y cyd a phlentyn gweddw Alecsander, Roxana, oedd heb ei eni eto. Penodwyd Perdiccas i reoli'r deyrnas ar eu rhan.

Cymerodd Meleager, pennaeth y gwŷr traed, i'r ddalfa a'i ladd. Yn 322 CC, torrodd ei ddyweddïad a Nicaea, merch Antipater, pan gynigiodd mam Alecsander, Olympias, iddo briodi ei merch Cleopatra, chwaer Alecsander. Cyn hir bu rhyfel rhwng Perdiccas a'i gyngheiriad Eumenes ar un ochr, ac Antigonus, Antipater, Craterus a Ptolemi ar yr ochr arall.

Gan adael Eumenes i ymgyrchu yn Asia Leiaf, aeth Perdiccas i ymosod ar Ptolemi yn yr Aifft. Cyrhaeddodd Pelusium, ond methodd a chroesi Afon Nîl. Gwrthryfelodd ei fyddin, a llofruddiwyd ef gan ei swyddogion, Peithon, Antigenes a Seleucus.