Thebai

Oddi ar Wicipedia
Thebai
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth21,530 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • Mileniwm 2. Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBwrdeistref Thiva Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad Groeg Gwlad Groeg
Arwynebedd830 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr215 metr, 180 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.3208°N 23.3178°E Edit this on Wikidata
Cod post32200 Edit this on Wikidata
Map
Am y ddinas yn yr Hen Aifft, gweler Thebes, Yr Aifft. Gweler hefyd Thebes.

Roedd Thebai ( hefyd Thebes; Hen Roeg: ΘῆβαιThēbai) yn ddinas yn Boeotia, oedd yn un o ddinasoedd pwysicaf Groeg yr Henfyd. Enw'r dref fodern ar y safle yw Thiva (Groeg: Θήβα).

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd y ddinas gan Cadmos, mab brenin Sidon. Tua diwedd y 6g CC daeth Thebai i wrthdrawiad ag Athen am y tro cyntaf, pan gynorthwyodd yr Atheniaid ddinas lai Plataea yn eu herbyn. Pan ymosododd Ymerodraeth Persia ar y Groegiaid yn 480 CC, gyrroedd Thebai 700 o filwyr i ymladd ym Mrwydr Thermopylae dan Leonidas, ond roedd rhain yn ŵyr oedd yn gwrthwynebu polisi llywodraethwyr y ddinas. Ymunodd yr uchelwyr oedd mewn grym yn Thebai â Xerxes yn erbyn y Groegiaid eraill, ac ymladdasant drosto ym Mrwydr Plataea yn 479 CC. Cefnogodd Thebai Sparta yn erbyn Athen yn y Rhyfel Peloponnesaidd, ac yn 424 CC gorchfygasant Athen ym Mrwydr Delium.

Wedi buddugoliaeth Sparta yn y rhyfel, trôdd Thebai yn ei herbyn. Ym Mrwydr Leuctra yn 371 CC enillodd Thebai dan Epaminondas fuddugoliaeth syfrdanol dros Sparta, a'i gwnaeth y ddinas fwyaf pwerus yng Ngroeg am gyfnod. Daeth y cyfnod yma i ben pan laddwyd Epaminondas ym Mwydr Mantinea yn 362 CC.