Philip II, brenin Macedon

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Philip II ar fedal o Tarsus.
"Y Garnedd Fawr" yn Verginia: man claddu Philip.
Oesoffagws posibl Philip, yn Verginia.

Philip II, brenin Macedon, Groeg: Φίλιππος Β' (383 CC - 336 CC) oedd brenin (basileus) teyrnas Macedon o 359 CC hyd ei farwolaeth. Ef a osododd sylfeini grym Macedonia, a ddefnyddiwyd gan ei fab, Alecsander Fawr, i goncro Ymerodraeth Persia.

Roedd Philip yn fab ieuengaf i Amyntas III, brenin Macedon ac Eurydice. Bu'n wystlon yn Thebai pan oedd yn ieuanc, yn y cyfnod pan oedd Thebai yn ddinas gryfaf Groeg, a chafodd ei addysgu yno gan y cadfridog enwog Epaminondas. Dychwelodd i Facedonia yn 364 CC, ac wedi marwolaeth ei frodyr Alexander II a Perdiccas III, daeth yn frenin yn 359 CC.

Canolbwyntiodd Philip ar gryfhau'r fyddin, ac enillodd nifer o fuddugoliaethau dros y bobloedd o'i amgylch. Yn 355 CC, priododd Olympias, merch brenin y Molossiaid. Ganed Alecsander iddynt y flwyddyn wedyn. Yn 354 CC, collodd un llygad wrth warchae ar ddinas Methone, oedd ym meddiant Athen. Yn raddol, ymestynnodd ei awdurdod dros ddinasoedd Groeg, er gwaethaf ymdrechion y gwladweinydd Athenaidd Demosthenes i ffurfio cynghrair yn ei erbyn. Yn 342 CC ymgyrchodd yn erbyn y Scythiaid, gan gipio Eumolpia a'i hail-enwi yn Philippopolis (Plovdiv heddiw).

Gorfchygodd gynghrair y Thebaid a'r Atheniaid yn Mrwydr Chaeronea yn 338 CC, ac yn 337 CC sefydlodd Gynghrair Corinth. Yn 336 CC, roedd yn paratoi ar gyfer ymosodiad ar Ymerodraeth Persia, ond ym mis Hydref 336 CC, llofruddiwyd ef yn Aegae, hen brifddinas Macedon, gan Pausanias o Orestis, un o'i warchodlu ei hun.

Carnedd Philip II yn Verginia[golygu]

Haul Verginia

Tref fechan yng ngogledd Gwlad Groeg ydy Veronica. Yn 1977 darganfyddodd yr archaeolegydd Groegaidd Manolis Andronikos, yn nhref Verginia, garnedd a man claddu posibl Philip. Mewn un ystafell darganfuwyd beddfaen brenhinol (larnax) a oedd yn aur pur (24 carat) ac yn pwyso 11 kilogram. O fewn y beddfaen cafwyd hyd i esgyrn a choron neu dorch aur ac arni 313 deilen derw bregus a thenau wedi'u cefio'n hynod o gywrain ac yn pwyso 717 gram. Ar y ceuad roedd symbol o haul, symbol sydd bellach wedi'i mabwysiadu bron fel symbol cenedlaethol gan Wlad Groeg.

Amheuaeth[golygu]

Darganfuwyd tair carnedd arall faes o law a hynny o fewn tafliad carreg i'r brif Garnedd Fawr. Ond bellach mae sawl archaeolegydd yn amau pwy mewn gwirionedd sydd wedi cael eu claddu ynddyn nhw. Mynegodd Andronikos ei hun mai brenhinoedd Macedon oeddent, gan gynnwys Philip II, tad Alecsander Fawr. Dywedodd hefyd fod Carnedd III yn dal gweddillion Alecsander IV, mab Alexander Fawr a'i wraig Roxana. Mae cryn wahaniaeth barn ynghylch hyn oll.