336 CC
Oddi ar Wicipedia
5ed ganrif CC - 4ydd ganrif CC - 3edd ganrif CC
380au CC 370au CC 360au CC 350au CC 340au CC 330au CC 320au CC 310au CC 300au CC 290au CC 280au CC
[golygu] Digwyddiadau
- Yn dilyn priodas Philip II, brenin Macedon ag Eurydice, mae ei fab Alecsander a'i fam Olympias yn ffoi i Epirus am gyfnod, cyn cymodi a Philip a dychwelyd.
- Ym mhriodas ei ferch, Cleopatra, i Alexander I, brenin Epirus, llofruddir Philip gan aelod o'i warchodlu, Pausanias o Orestis. Lleddir Pausanias yn y fan
- Olynir Philip gan ei fab Alecsander, fel Alecsander III. Mae mam Alecsander, Olympias, yn gorchymyn lladd Eurydice, ei merch fychan a'i hewythr, y cadfridog Attalus.
- Alecsander yn gorchymyn dienyddio Amyntas IV.
- Wedi ei sefydlu ei hun ar yr orsedd, mae Alecsander yn gorfodi dinas Thebai i ildio iddo, yma'n mynd ymlaen i ddinas Corinth, lle penodir ef yn arweinydd y cynghrair yn erbyn Ymerodraeth Persia yn lle ei dad.
- Yn Ymerodraeth Persia, mae'r brenin Artaxerxes IV yn ceisio dod yn rhydd o ddylanwad y llywodraethwr Bagoas, sy'n ei lofruddio. Mae Bagoas yn rhoi Darius III ar yr orsedd yn ei le.
- Pan geisia Darius ddod yn rhydd o ddylanwad Bagoas, mae Bagoas yn ceisio ei wenwyno, ond mae Darius yn darganfod y cynllwyn ac yn gorfodi Bagoas i yfed y gwenwyn ei hun.
[golygu] Genedigaethau
[golygu] Marwolaethau
- Philip II, brenin Macedonia
- Artaxerxes IV, brenin Persia
- Bagoas, Llywodraethwr Ymerodraeth Persia
- Amyntas IV, hawlydd coron Macedon