Biosffer Dyfi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gwarchodfa fiosffer yw Biosffer Dyfi sy'n cwmapsu Bro Ddyfi ac Aberystwyth. Ers 2009, mae'r ardal wedi ei hadnabod gan UNESCO fel ardal arbennig ar gyfer pobl a natur, un o 553 a glustnodwyd ganddynt fel rhan o raglen Dyn a'r Biosffer.

Cynnwys

Hanes [golygu]

Roedd ardal llai, o amgylch Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi wedi ei ddynodi fel Biosffer ym 1976, ond roedd yn rhaid ail-ymgeisio wedi i UNESCO newid y diffiniad o Fiosffer fel fod rhaid iddo gynnwys ardaloedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Ehangwyd yr ardal i gynnwys holl ddalgylch afonydd Dyfi a Leri (ac felly tref Machynlleth a phentrefi megis Dinas Mawddwy, Corris, Llanbrynmair a Thalybont, a thref Aberystwyth, a dyranwyd y statws newydd ym mis Mehefin 2009.[1]

Ardaloedd craidd [golygu]

Mae tair rhan i ardal graidd y Biosffer, sef yr ardaloedd sydd â diddordeb arbennig o ran natur: Cors Fochno, Coed Cwm Einion, a rhan o ardal gadwraeth morol Pen Llŷn a'r Sarnau.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Gwefan UNESCO; adalwyd 21/06/2012

Dolen allanol [golygu]

WalesCeredigion.png Eginyn erthygl sydd uchod am Geredigion. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato