Billy Elliot (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
Billy Elliot

Mae Billy Elliot (2000) yn ffilm a ysgrifennwyd gan Lee Hall ac a gyfarwyddwyd gan Stephen Daldry. Lleolir y ddrama yn nhref ffuglennol 'Everington' yn Swydd Durham, DU ac mae'n serennu Jamie Bell fel bachgen 11 oed o'r enw Billy. Ei freuddwyd yw i fod yn ddawnsiwr a chaiff ei hyfforddi gan ei athrawes ballet a chwaraeir gan Julie Walters. Mae dad, a chwaraeir gan Gary Lewis yn gweithio yn y pyllau glo a chwarae Jamie Draven rhan brawd hŷn Billy. Yn 2001, comisiynnwyd yr awdur Melvin Burgess i ysgrifennu nofel o'r ffilm yn seiliedig ar sgript Lee Hall. Addaswyd y stori ar gyfer sioe gerdd yn y West End o'r enw Billy Elliot the Musical yn 2005; agorodd y sioe ar Broadway yn 2008 ac yn Awstralia yn 2007.

Cast[golygu | golygu cod]

Gwobrau ac Enwebiadau[golygu | golygu cod]

Enwebwyd y ffilm ac enillodd wobrau ledled y byd gan gynnwys y canlynol.

2000[golygu | golygu cod]

  • Enillodd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Ffilm Annibynnol Prydeinig Gorau
  • Enillodd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Cyfarwyddwr Groau - Stephen Daldry
  • Enillodd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Newydd-ddyfodiad Gorau - Jamie Bell
  • Enillodd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Y Sgript Orau
  • Enwebwyd - Gwobrau Ffilmiau Prydeinig Annibynnol, DU - Yr Actores Orau - Julie Walters
  • Enillodd - Propeller of Motovun, Croatia

2001[golygu | golygu cod]

  • Enwebwyd - Gwobrau'r Academi, UDA - Actores Orau mewn Rôl Gefnogol - Julie Walters
  • Enwebwyd - Gwobrau'r Academi, UDA - Cyfarwyddwr Gorau - Stephen Daldry
  • Enwebwyd - Gwobrau'r Academi, UDA - Ysgrifennwr Gorau mewn Sgript a Ysgrifennwyd yn Arbennig ar gyfer y Sgrîn - Lee Hall
  • Enillodd - Gwobrau Amanda, Norwy - Ffilm Dramor Orau
  • Enwebwyd - Golygyddion Sinema Americanaidd, UDA - Ffilm Ddramatig a Olygwyd Orau - John Wilson
  • Enwebwyd - Gwobrau Angel, - Ffilm Orau
  • Enwebwyd - Cymdeithas Cyfarwyddwyr Celf - Ffilm
  • Enwebwyd - Cymdeithas Ffilm Australia, - Ffilm Dramor Orau
  • Enillodd - Gwobrau BAFTA, - Gwobr Alexander Korda am y Ffilm Brydeinig Orau
  • Enillodd - Gwobrau BAFTA, - Perfformiad Gorau gan Actor mewn Prif Ran - Jamie Bell
  • Enillodd - Gwobrau BAFTA, - Perfformiad Gorau gan Actor mewn Rôl Gefnogol - Julie Walters
  • Enillodd - Gwobrau London Critics Circle Film - Actores Brydeinig y Flwyddyn - Julie Walters

Yn 2004, enwodd y cylchgrawn Total Film Billy Elliot fel y 39fed ffilm Prydeinig orau erioed.

Caneuon i Gyd-fynd â'r ffilm[golygu | golygu cod]

Mae'r albwm sy'n cyd-fynd â'r ffilm yn cynnwys nifer o ganeuon roc adnabyddus:

  1. "Cosmic Dancer" - T. Rex
  2. "Get It On (Bang a Gong)" - T. Rex
  3. "Town Called Malice" - The Jam
  4. "I Love to Boogie" - T. Rex
  5. "London Calling" - The Clash
  6. "Children of the Revolution" - T. Rex
  7. "Shout to the Top" - The Style Council
  8. "Walls Come Tumbling Down" - The Style Council
  9. "Ride a White Swan" - T. Rex
  10. "Burning Up" - Eagle Eye Cherry