The Clash
| The Clash | |
|---|---|
| The Clash yn perfformio'n fyw yn Oslo, 1980 | |
| Gwybodaeth gefndirol | |
| Tarddiad | Llundain, Lloegr |
| Cerddoriaeth | Roc bync, eraill |
| Blynyddoedd | 1976–1986 |
| Label(i) recordio | CBS |
| Cysylltiedig | The 101'ers, London SS, Generation X, Big Audio Dynamite, Havana 3am, The Latino Rockabilly War, The Pogues, The Mescaleros, Carbon/Silicon, The Good, the Bad and the Queen |
| Gwefan | www.theclash.com |
| Cyn aelodau | |
| Mick Jones Paul Simonon Terry Chimes Joe Strummer Nicky "Topper" Headon Keith Levene Rob Harper Pete Howard Nick Sheppard Vince White |
|
Roedd The Clash yn fand pync o Llundain yn Lloegr. Cafodd y band ei ffurfio yn 1976, a daeth gyrfa y band i ben yn 1986. Joe Strummer (gitâr, llais), Mick Jones (gitâr, llais), Paul Simonon (gitâr bâs, llais) a Terry Chimes (drymiau) oedd yr aelodau gwreiddiol, ond ond fuan ar ôl ffurfio, wnaeth y tri aelod cyntaf gytuno i Topper Headon gymryd lle Chimes. Wnaethon nhw lwyddo i werthu recordiau yn y UDA, camp go iawn i fand pync Prydeinig. Ystyrir y band, yn ogystal â'r Sex Pistols, i fod yn un o'r bandiau mwyaf dylanwadol y mudiad pync.
Agweddau gwleidyddol y band [golygu]
Roedd y band yn enwog am fabwysiadu agwedd gwrth-hiliol. Yn 1977, rhyddhawyd 'White Riot', cân a oedd yn cydymdeimlo â phrofiadau pobl duon yn Llundain. Y flwyddyn wedyn, wnaethon nhw chwarae'r gŵyl Rock Against Racism yn Llundain. Roeddent hefyd yn wrth-niwclear, yn rhyddhau traciau megis 'Stop The World' a chaneuon eraill yn erbyn trais yn fwy cyffredinol.
Gweithiau [golygu]
Wnaethon nhw ryddhau chwech albwm stiwdio:
- The Clash (1977)
- Give 'Em Enough Rope (1978)
- London Calling (albwm dwbl; 1979)
- Sandinista! (albwm triphlyg; 1980)
- Combat Rock (1982)
- Cut the Crap (1985)
Cafodd albwm byw, sef From Here To Eternity: Live, ei ryddhau yn 1999.
Yn 1991, aeth cân o Combat Rock, 'Should I Stay Or Should I Go', i frig y siartiau ym Mhrydain ar ôl iddi gael ei defnyddio mewn hysbyseb teledu.
Cyfeiriad [golygu]
- John Robb (gol.), Punk Rock: An Oral History (Ebury, 2005).