Baner Zimbabwe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Zimbabwe FIAV 010100.svg
Hen faner ZANU-PF.

Baner o saith stribed llorweddol (gwyrdd, melyn, coch, du, coch, melyn, gwyrdd) gyda thriongl yn yr adran godi (hoist), gyda border du (sy'n ymuno â'r stribed du canolog), cefndir gwyn ac aderyn cenedlaethol Zimbabwe melyn ar seren goch, yw baner Zimbabwe. Mae gwyrdd, melyn, coch a du yn lliwiau'r mudiad ZANU ac yn lliwiau pan-Affricanaidd. Yn ogystal roedd du yn cynrychioli arweinwyr newydd y wlad ar ôl annibyniaeth, tra bo gwyn yn cynrychioli eu dymuniad am heddwch. Arwyddlun cenedlaethol yw'r aderyn sy'n gynrychiadol o adar carreg a ddarganfuwyd yn adfeilion Zimbabwe Fawr, ac mae'r seren goch yn dangos rhagolwg rhyngwladol y wlad.

Mabwysiadwyd baner Zimbabwe ar 18 Ebrill, 1980 ar sail baner ZANU-PF oedd yn cynnwys paneli consentrig o wyrdd, melyn, coch, a phanel du yn y canol.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Flag of Zimbabwe.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Zimbabwe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill