Baner São Tomé a Príncipe

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner São Tomé a Príncipe FIAV 111111.svg

Baner drilliw lorweddol, gyda stribedi uwch ac is gwyrdd a stribed canol melyn â dwy seren ddu arno, gyda thriongl coch yn y hoist yw baner São Tomé a Príncipe. Mae coch, melyn, du, a gwyrdd yn lliwiau pan-Affricanaidd; mae coch hefyd yn cynrychioli'r frwydr am annibyniaeth, yn debyg i faneri Ghana a Togo. Mae'r ddwy seren yn symboleiddio'r ddwy ynys, São Tomé a Príncipe. Fe'i hysbrydolwyd gan faner Ghana, ac mae'n seiliedig ar faner y Mudiad dros Ryddhad São Tomé a Príncipe (MLSTP). Mabwysiadwyd ar 5 Tachwedd 1975 yn sgîl annibyniaeth ar Bortiwgal, ac fe'i chedwir fel y faner genedlaethol hyd yn oed ar ôl i'r MLSTP golli ei fonopoli ar rym ym 1990.

[golygu] Ffynonellau

  • Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)
Africa stub icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill