Baner Somalia
Oddi ar Wicipedia
Seren wen ar faes glas yw baner Somalia. Mae'r seren yn symboleiddio undod, ac mae ei phum pwynt yn cynrychioli'r bum ardal lle mae'r hil Somaliaidd yn trigo: yng ngwledydd Ethiopia, Kenya, a Djibouti, ac yn y ddwy gyn-drefedigaeth Eidalaidd a Phrydeinig, sydd bellach gyda'i gilydd yn wladwriaeth Somalia.
Mabwysiadwyd y faner ar 12 Hydref 1954 gan y Diriogaeth Ymddiriedolaeth Eidalaidd ar sail baner las a gwyn y Cenhedloedd Unedig, oedd yn arolygu'r diriogaeth ar y pryd. Fe'i chedwir yn sgîl annibyniaeth Somalia ym 1960.
ffynonellau[golygu]
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)