Arthur Symons

Oddi ar Wicipedia
Arthur Symons
Ganwyd28 Chwefror 1865 Edit this on Wikidata
Aberdaugleddau Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ionawr 1945 Edit this on Wikidata
Wittersham Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, cyfieithydd, hanesydd celf Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Arthur William Symons (28 Chwefror 186522 Ionawr 1945), yn fardd, feirniad a golygydd cylchgronau.

Bywyd[golygu | golygu cod]

Ganwyd Symons yn Aberdaugleddau, Cymru, i rieni Cernyweg, cafodd ei addysgu yn breifat a treuliodd tipyn o'i amser yn Ffrainc a'r Eidal. Ym 1884-1886, fe olygodd pedwar cyfrol Shakespeare Quarto Facsimiles gan Bernard Quaritch, ac ym 1888-1889 golygodd saith drama o Shakespeare "Henry Irving". Daeth yn aelod o staff Athenaeum ym 1891, ag o'r Saturday Review ym 1894, ond ei lwyddiant golygyddol mwyaf oedd ei waith tymor byr gyda'r Savoy.

Roedd ei gyfrol cyntaf o farddoniaeth, Days and Nights (1889), yn cynnwys ymsonau dramatig. Roedd ei farddoniaeth hwyrach wedi ei ddylanwadu gan astudiaeth drylwyr o ysgrifenwyr cyfoes Ffrengig, gan Charles Baudelaire, ac yn enwedig Paul Verlaine. Mae ei waith yn adlewyrchu tueddiadau Ffrengig yn nhestunau ag yn arddull ei farddoniaeth, trwy eu erotiaeth a'u disgrifiadau llachar. Cyfrannodd Symons darnau o farddoniaeth a thraethodau i The Yellow Book, gan gynnwys darn pwysig a ychwanegwyd ato'n hwyrach i greu The Symbolist Movement in Literature, a fyddai wedi fod yn dylanwad syfrdanol ar William Butler Yeats a T. S. Eliot. O 1895 hyd at 1896 bu Symons yn golygu, gyda Aubrey Beardsley a Leonard Smithers, The Savoy, a oedd yn gylchgrawn llenyddiaeth oedd yn cyhoeddi celf a llenyddiaeth. Mae rhai cyfrannwyr nodedig yn cynnwys Yeats,  George Bernard Shaw, a Joseph Conrad. Roedd Symons hefyd yn aelod o'r Rhymer's Club a sefydlwyd gan Yeats ym 1890.

Ym 1892 cafodd, The Minister's Call, drama cyntaf Symons, ei gynhyrchu gan the Independent Theatre Society - clwb breifat - er mwyn osgoi sensoriaeth gan Lord Chamberlain's Office.

Ym 1902, wnaeth Symons casgliad o'i waith cynt, a'u cyhoeddi o dan y teitl Poems. Cyfieithodd gwaith Gabriele D'Annunzio The Dead City (1900) a The Child of Pleasure (1898) o Eidaleg, o Ffrangeg fe gyfieithodd gwaith Emile Verhaeren The Dawn (1898). Rhoddodd traethawd The Poems of Ernest Dowson (1905) i'r bardd diweddar, a oedd yn rhyw fath o Verlaine Saesnig a oedd yn cynnig nifer o atyniadau i Symons. Ym 1909 dioddefodd Symons o waeledd seicotig, o ganlyniad i hyn ni gyhoeddodd llawer o waith o gwbwl am gyfnod o tua ugain mlynedd. Roedd ei waith Confessions: A Study in Pathology (1930) yn ddisgrifiad o'i waeledd seicotig a'i driniaeth.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1918 cyhoeddodd cylchgrawn Vanity Fair draethawd Baudelarian Symons, "The Gateway to an Artificial Paradise: The Effects of Hashish and Opiwm Compared". Ar un adeg rhwng 1889 a 1895, roedd John Addington Symonds, Ernest Dowson a, "some of Symons’ lady friends from the ballet all tried hashish during an afternoon tea given by Symons in his rooms at Fountain Court."

  • Days and Nights (1889)
  • Silhouettes (1892)
  • London Nights (1895)
  • Amoris victima (1897)
  • Images of Good and Evil (1899)
  • Poems in 2 volumes.(Contains: The Loom of Dreams in the second Volume, 1901), (1902)
  • Lyrics (1903): Detholiad o gerddi a gafodd ei gyhoeddu yn yr UDA yn unig.
  • A Book of Twenty Songs (1905)
  • The Fool of the World and other Poems (1906)
  • A Book of Parodies (1908)
  • Knave of Hearts (1913). Poems written between 1894 and 1908.
  • Love's Cruelty (1923)
  • Jezebel Mort, and other poems (1931)

Traethodau[golygu | golygu cod]

  • An Introduction to the study of Browning (1886)
  • Studies in Two Literatures (1897)
  • Aubrey Beardsley: An Essay with a Preface (1898)
  • The Symbolist Movement in Literature (1899; 1919)
  • Cities (1903), word-pictures of Rome, Venice, Naples, Seville, etc.
  • Plays, Acting and Music (1903)
  • Studies in Prose and Verse (1904)
  • Studies in Seven Arts (1906).
  • Figures of Several Centuries (1916)
  • Cities and Sea-Coasts and Islands (1918)
  • Colour Studies in Paris (1918)
  • "The Gateway to an Artificial Paradise: The Effects of Hashish and Opium Compared" (1918)
  • Studies in the Elizabethan Drama (1919)
  • Charles Baudelaire: A Study (1920)
  • Dramatis Personae (1925 - US edition 1923)
  • From Toulouse-Lautrec to Rodin (1929)
  • Studies in Strange Souls (1929)
  • Confessions: A Study in Pathology (1930). Llyfr yn cynnwys disgrifiad o'i waeledd seicotig a'i driniaeth.
  • Wanderings (1931)
  • A Study of Walter Pater (1932)

Ffuglen[golygu | golygu cod]

  • Spiritual Adventures (1905). With an autobiographical sketch.

Nodiadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]