Alloa
Oddi ar Wicipedia
Dinas (burgh) yn nwyrain yr Alban a chanolfan weinyddol Swydd Clackmannan yw Alloa (Gaeleg yr Alban: Allmhagh). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 18,989. Mae Caerdydd 516.8 km i ffwrdd o Alloa ac mae Llundain yn 565.8 km. Y ddinas agosaf ydy Stirling sy'n 9 km i ffwrdd.
Saif Alloa ar lan ogleddol afon Forth, 7 milltir i'r dwyrain o Stirling. Datblygodd cryn dipyn o ddiwydiant yma yn y 18fed a'r 19eg ganrif, yn rhannol oherwydd y porthladd ar yr afon. Y diwydiant glo oedd y pwysicaf o ddiwydiannau'r cylch hyd y 1950au.
Credir mai'r ardal yma oedd Manaw Gododdin yng nghyfnod yr Hen Ogledd.