Aled a Reg

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Aled a Reg (deuawd))
Aled a Reg
Enghraifft o'r canlynoldeuawd Edit this on Wikidata
Genrecanu gwerin, cerddoriaeth boblogaidd Edit this on Wikidata
Clip sain o Aled a Reg yn canu Llwybr y Plwy o'r Albwm "Y Bois a'r Hogia" (2010)

Deuawd canu pop Cymraeg a chaneuon gwerin ysgafn o ardal Bangor yn yr 1960au canol a dechrau'r 1970au oedd Aled a Reg. Eu henwau oedd Aled Hughes a Reg Edwards.[1]

Bu iddyn rhyddhau sawl record ac ymddangos ar raglenni cerddoriaeth Gymraeg fel Hob y Deri Dando yn 1968.[2] Yn hwyrach yn eu gyrfa ymunodd Nia â nhw.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd Aled Hughes a Reg Edwards wedi bod yn canu gyda grŵp Hogia Bangor cyn canu fel deuawd.[3]

Cynhwysir eu cân, Llwybr y Plwy, a ymddangosodd gyntaf ar record LP "Yn Canu'n Llon" yn 1968 ar albwm amlgyfrannog gan Recordiau Sain o'r enw 'Y Bois a'r Hogia'. Mae'r albwm a gyhoeddwyd yn 2010 yn cynnwys detholiad o ganeuon gan grwpiau a deuawau canu ysgafn Cymraeg o'r 1960au a'r 70au cynnar fel Aled a Reg; Y Derwyddon, Hogia Llandegai, Hogiau'r Deulyn, Y Pelydrau, Y Cwiltiaid, Y Diliau, a Bois y Blacbord.[4]

Mewn sgwrs o'i gartref yn Neiniolen ger Caernarfon atgofiai Reg Edwards am ei yrfa. Bu iddo ddechrau canu yn 15 oed gan gael i sylwi gan Wilbert Lloyd Roberts oedd yn gynhyrchydd gyda'r BBC. Byddai'n mynd i Neuadd y Penrhyn ym Mangor oedd yn stiwtio dros dro i gymryd rhan mewn rhaglenni gan gynnwys canu gyda band cefndir, 'Hebogiad y Nos', o Gaergybi.[5]

Roedd Aled a Reg yn gweithio ar y rheilffyrdd gydag Aled yn yrrwr pan ddechreuasant ganu fel deuawd. Gwahoddwyd nhw fel deuawd ar raglen Hob y Deri Dando gan y gynhyrchydd, Meredydd Evans oedd yn cael ei recordio yn Neuadd y Penrhyn. Bu iddynt ymddangos sawl gwaith ar y gyfres.[5] Bu i'r ddau berfformio ar draws Cymru ac yng nghyngerdd enwog 'Pinaclau Pop' a gynhadliwyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 i godi arian i Eisteddfod Genedlaeth yr Urdd, Aberystwyth 1969 ynghŷd a pherfformiwyr adnabyddus eraill bu'n perffordmio fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Hogia Llandegai, Y Derwyddon, Y Pelydrau, Y Cwiltiaid, Mari Griffith, Diliau a mwy gyda Ryan Davies yn cyflwyno i gynulleidfa o 3,000 o bobl.[6]

Wedi cyfnod yn canu gydag Aled aeth Reg yn ei flaen i ganu'n unigol gan newid ei enw llwyfan i Greg Edwards.[5] Mewn cyfweliad gyda'r Daily Post yn 2015 atgofiau Reg fel iddo ef ac Aled gwrdd gyda'r perfformiwr enwog Ivor Emmanuel yn bar y BBC yng Nghaerdydd wedi recordio rhaglen Gwlad y Gân. Dyfarodd Reg iddo beidio ateb gwahoddiad am glyweliad gan y canwr enwog.[5]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Dyma'r ddisgyddiaeth sy'n wybyddus. Nid yw'n glir os oedd Aled a Reg Rhif 1 ar gael.[7]

caneuon: Ochr A: San Miguel; Aur Y Bryniau; Annabella. Ochr B: Byth Yn Anghof, Cusan Fach Anwylid, Merched Cymru.

Caneuon: Ochr A: Ynys Môn; Dyddiau Difyr; Rhen Ganwyll Ar Y Bwrdd. Ochr B: Chwyfio'r Cadach Gwyn; Câr Fi'n Dyner (cyfieithiad o 'Love Me Tender')

Caneuon: Ochr A: John Bee; Gwenllian Fach; Oer Yw Fy Serch. Ochr B: Os Ydym Fwy; Hiraeth Am Bethesda; Llwybr Y Plwy

Caneuon: Ochr A: Anna Marie; Dowch I America; Gwrando Ar Fy Nhgri Ochr B: Dacw'r Bwthyn Gwyn

Caneuon: Ochr A: Tyrd Adre Gyda Mi; Ar Lan Y Môr. Ochr B: R'wyf Ond Yn Byw; Fe Rown Yr Hyn Oll

Caneuon: Ochr A: Yr Annwyl Eneth Hon; Yr Hen Simdda Fawr. Ochr B: Cariad Y Bardd; Morfydd; Hogyn Gyrru'r Wedd

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Reg 2". Discogs. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  2. "Hob y Deri Dando". BBC Programme Index. 30 Mai 1968. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  3. "Reg 2". Discogs. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  4. "Y Bois a'r Hogia". Recordiau Sain. 2010. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Crump, Eryl (3 Chwefror 2015). "Gwynedd singer recalls the heady days of the 1960s". Daily Post.
  6. "'Pinaclau Pop' - Robat Gruffudd (1969)". Tudalen Facebook Y Lolfa. 19 Gorffennaf 2016.
  7. "Aled A Reg - Discography". 45cat. Cyrchwyd 6 Ebrill 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato