Y Pelydrau

Oddi ar Wicipedia
Y Pelydrau
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Daeth i ben1973 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1966 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth boblogaidd, Canu gwerin, Cerddoriaeth pop a roc Cymreig Edit this on Wikidata
PencadlysTrawsfynydd Edit this on Wikidata
Gellir darllen erthygl lawnach ar Wici Porth ar Y Pelydrau

Grŵp pop o Drawsfynydd oedd Y Pelydrau. Daethont i'r amlwg yn 1966 ar ôl ennill cystadleuaeth bop yr Urdd. Wnaethon nhw ryddhau nifer o senglau ac EPau dros y saith blynedd nesaf, gan gynnwys Caneuon Serch Y Pelydrau (1967), Dewch I Ddawnsio (1968), a Coffa Hedd Wyn (1973). Roedd y recordiau yma yn boblogaidd iawn, yn sicrhau lle rheolaidd i'r grŵp yn Nheg Uchaf Y Cymro yn ystod y 60au hwyr a'r 70au cynnar. Wnaethon nhw ymddangos ar deledu ar nifer o achlysuron. Wnaethon nhw chwalu yn 1973.

Aelodau[golygu | golygu cod]

Susan Dobbs, Edith Barker a Gwenan Jones (lleisiau), Glenys Davies (llais a gitâr), a Gareth Williams (gitâr, llais). Mae enw’r grŵp yn cyfeirio at yr atomfa yn Nhrawsfynydd, bro eu mebyd, a ddechreuodd gynhyrchu trydan yn 1965.[1][2]

Bu iddynt ymddangos ar raglen gerddoriaeth Gymraeg Hob y Deri Dando yn 1969, a gellid tybio, sawl tro arall. Roeddynt yn weithgar yn perfformio mewn cyngherddau ar draws Cymr gan gynnwys cyngerdd fawr enwog 'Pinaclau Pop' a gynhadliwyd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar 29 Mehefin 1968 i godi arian i Eisteddfod Genedlaeth yr Urdd, Aberystwyth 1969 ynghŷd a pherfformiwyr adnabyddus eraill bu'n perffordmio fel Dafydd Iwan, Heather Jones, Hogia Llandegai, Aled a Reg, Y Derwyddon, Y Cwiltiaid, Mari Griffith, Y Diliau a mwy gyda Ryan Davies yn cyflwyno i gynulleidfa o 3,000 o bobl.[3]

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Y Pelydrau sawl record yn eu gyrfa.[4]

Dolenni allannol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hill, Sarah. "Y Pelydrau". Wici Esboniadur Cerddoriaeth ar Porth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Cyrchwyd 7 Ebrill 2024.
  2. "Clawr angrhedadwy Y Pelydrau o Drawsfynydd, 1967 - yr atomfa yn y cefndir". Tudalen Facebook Gruff Rhys. 19 Medi 2015. Cyrchwyd 7 Ebrill 2024.
  3. "'Pinaclau Pop' - Robat Gruffudd (1969)". Tudalen Facebook Y Lolfa. 19 Gorffennaf 2016.
  4. "Y Pelydrau". 45cat. Cyrchwyd 7 Ebrill 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato