Acen grom
Mae'r acen grom, hirnod neu do bach ( ˆ ) yn acennod a ddefnyddir mewn Afrikaans, Croateg, Cymraeg, Eidaleg, Esperanto, Ffrîseg, Ffrangeg, Llydaweg, Norwyeg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Serbeg, Tyrceg a ieithoedd eraill.
Cynnwys |
[golygu] Traw
Cafodd yr acen grom yn ei ddefnyddio yn gyntaf yn yr orgraff polytonydd o Hen Roeg, lle ddigwyddodd ar llafariaid hir i ddangos cynnydd wedyn gostyngiad yn traw.
[golygu] Hyd
Mae'r acen grom yn dangos hyd llafariaid mewn amrhyw o ieithoedd.
Yn Gymraeg mae’r acen grom yn cael ei ddefnyddio i wahaniaethu rhwng homograffâu, e.e. ‘tan’ a ‘tân’
Yn Frangeg mae’r acen grom yn cael ei ddefnyddio ar â, ê, î, ô ac û. Hir yw'r llafariaid hyn, ac yn hanesyddol, mae'n nhw'n cynrychioli ‘s’ ar goll, e.e. y gair ‘ffenestr’: Roedd fenêtre yn fesnestre.
Siapaneg. Yn y system rhufeineiddio Kunrei-shiki, gall yr acen grom yn cael ei ddefnyddio yn hytrach na'r acen macron, e.e. gall y gair ‘arigatō’(diolch) yn cael ei ysgrifennu fel ‘arigatô’
Yn Dyrceg, mae'r acen grom yn cael ei ddefnyddio ar â ac û i gwahaniaethu rhwng homograffâu, e.e. ‘şura’ (dacw) a ‘şûra’ (cyngor).
[golygu] Uchder
Gall yr acen grom yn cael ei ddefnyddio i ddangos yr uchder llafariaid:
Portiwgaleg. Uwch na ‘á’ /a/, ‘é‘ /ɛ/, ac ‘ó’ /ɔ/ yw ‘â‘ /ɐ/, ‘ê’ /e/, ac ‘ô’ /o/. Mae'r acen grom yn cael ei ddefnyddio dim ond ar llafariaid dan bwysau.
[golygu] Estyniad Llythyren
Yn Esperanto, mae'r acen grom yn cael ei ddefnyddio ar y llythrennau ĉ, ĝ, ĥ, ĵ ac ŝ.
Yn Rwmaneg, mae'r acen grom yn cael ei ddefnyddio ar y llythrennau â ac î am y sŵn /ɨ/.
[golygu] Yn Saesneg
Ar eiriau benthyg, mae'r acen grom yn cael ei gadw, fel acennodau eraill, e.e. rôle o'r iaith Ffrangeg. Ym Mhrydain yn y ddeunawfed ganrif (cyn y bost geiniog, pan drethwyd papur), defnyddwyr yr acen grom i gadw gofod, yn bendant y llythrennau ‘ugh’, e.e. ‘thô‘ yn lle ‘through’ neu ‘brôt’ yn lle ‘brought’
[golygu] Gweler hefyd
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Y Prosiect Diacritics
- (Saesneg) Cymorth mewnbwn am acennodau