Abaty Clairvaux

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cynllun o Abaty Clairvaux

Abaty Clairvaux oedd yr abaty a sefydlwyd ym 1115 gan Sant Bernard o Clairvaux, sefydlwr Urdd y Sistersiaid. Yn ei ddydd roedd Clairvaux yn un o'r abatai pwysicaf yng Ngorllewin Ewrop. Fe'i lleolwyd mewn dyffryn coediog (daw'r enw Ffrangeg o'r Lladin clara vallis, "dyffryn hardd") ger Bar sur Aube, yn Val d'Aube yng ngogledd-ddwyrain Ffrainc.

Cafodd yr hen abaty ei ddifetha'n llwyr ym 1791 yn ystod y Chwyldro Ffrengig a dymchwelwyd yr adfeilion ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y cwbl sy'n aros heddiw yw ambell darn o fur o'r sefydliad cyntaf (Clairvaux 1: y Monasterium Vetus, 1115-1135), adfeilion clwysty o gyfnod Clairvaux 2 (1135-1708) a muriau'r clwysty clasurol diweddarach (Clairvaux 3: 1708-1792).

Roedd Clairvaux yn fam-abaty i sawl tŷ Sistersaidd yng Nghymru: