Mêl
Hylif gludiog melys a gynhyrchir gan wenyn yw mêl. Mae lliw a blas mêl yn dibynnu ar y blodau yr ymwelodd y gwenyn â nhw yn ystod eu gwaith hel neithdar.
Mae mêl yn gymysgedd o nifer o siwgrau (yn bennaf ffrwctos a glwcos) ac mae'n cynnwys fitaminau (B6 ac eraill), mwynau (calsiwm, copr, haearn, magnesiwm, manganîs, ffosfforws, potasiwm, sodiwm a sinc), rhai asidau amino ac ensymau.
Bwyd
[golygu | golygu cod]Fel arfer, defnyddir mêl i goginio a phobi neu i'w ledaenu ar fara neu dost. Defnyddir mêl hefyd i roi blas ar ddiodydd fel te.
Diod feddwol wedi'i wneud o fêl yw medd. Ar un adeg ystyrid mai medd oedd y ddiod orau y gellid ei chael; sonnir yn y Gododdin mai dyna a gâi milwyr yr Hen Ogledd i'w yfed cyn mynd i'r gad.
Ymhlith y blasau mwyaf poblogaidd y mae Blodeuyn Acasia (yn bennaf o Ddwyrain Ewrop), Blodeuyn Afal a Cheirios (o Brydain) a Chneuen gastan (De Ewrop).
Gall mêl fod yn hylif neu yn hufen, gan fod crisialau siwgwr yn ffurfio ar ôl peth amser. Mae mêl crwybr, mêl â darnau o grwybr a mêl talpiau yn cynnwys darnau o grwybr cwyr sydd yn fwytadwy hefyd.
Meddygol
[golygu | golygu cod]Mae rhai pobl yn meddwl fod mêl yn gwneud lles i'ch iechyd.
Nid yw'n iachusol bob tro, fodd bynnag. Gall mêl achosi afiechyd peryglus iawn (botwliaeth babanod) i blant dan ddeunaw mis oed.