Difa
Awdur | Dewi Wyn Williams |
---|---|
Cyhoeddwr | Atebol |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 16/11/2015 |
Argaeledd | Ar gael |
ISBN | 9781910574362 |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Drama am salwch meddwl gan Dewi Wyn Williams yw Difa a gyhoeddwyd yn 2015 gan Atebol. Man cyhoeddi: Aberystwyth, Cymru.[1]
Dyma sgript drama wreiddiol Dewi Wyn Williams, ar gyfer taith Theatr Bara Caws, Tachwedd - Rhagfyr 2015.
Drama newydd a heriol am Salwch Meddwl gan Dewi Wyn Williams, enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014. Awgryma'r ddrama mai trasiedi yw bywyd yn agos, a chomedei yw bywyd o bell. Mae'r drama'n digwydd ym mhen Oswald Pritchard. Mae Oswald wedi colli ei waith, ac yn ofni colli cariad ei wraig, Mona. Cawn fynd yn ei gwmni i weld ei gyn-fod Peter a'i seiciatrydd Dr King, a chael cipolwg ar ei fywyd priodasol anghonfensiynnol wrth iddo bendilio o un emosiwn i'r llall gan gynnig syniadau bachog a difyr am y byd a'i bethau, a hynny mewn iaith rywiog, gref.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017