Neidio i'r cynnwys

Difa

Oddi ar Wicipedia
Difa
AwdurDewi Wyn Williams
CyhoeddwrAtebol
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi16 Tachwedd 2015
Pwnciechyd meddwl
ArgaeleddAr gael
ISBN9781910574362
GenreDramâu Cymraeg

Drama ddwy act heriol am salwch meddwl yw Difa gan Dewi Wyn Williams, a gyhoeddwyd yn 2015 gan Atebol.[1]

Daeth y ddrama yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych 2013, ac a lwyfanwyd gan Theatr Bara Caws yn Hydref 2015[2].

Awgryma'r ddrama mai trasiedi yw bywyd yn agos, a chomedi yw bywyd o bell. Mae'r drama'n digwydd ym mhen Oswald Pritchard. Mae Oswald wedi colli ei waith, ac yn ofni colli cariad ei wraig, Mona. Cawn fynd yn ei gwmni i weld ei gyn-fos Peter a'i seiciatrydd Dr King, a chael cipolwg ar ei fywyd priodasol anghonfensiynnol wrth iddo bendilio o un emosiwn i'r llall gan gynnig syniadau bachog a difyr am y byd a'i bethau, a hynny mewn iaith rywiog, gref.


Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Oswald Pritchard
  • Mona Pritchard - ei wraig
  • Peter - cyn fos Oswald
  • Dr King - seiciatrydd Oswald

Cynyrchiadau Nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfanwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Theatr Bara Caws yn 2015. Cyfarwyddwr Betsan Llwyd; cynllunydd Emyr Morris Jones.

  • Oswald Pritchard - Rhodri Evan
  • Mona Pritchard - Bethan Dwyfor
  • Peter - Llion Williams
  • Dr King - Catrin Mara.[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017
  2. "Dewi Wyn Williams yn ennill y Fedal Ddrama". BBC Cymru Fyw. 2014-08-07. Cyrchwyd 2024-08-24.
  3. Crump, Eryl (2015-11-11). "Review: Difa, Theatr Bara Caws, Neuadd Ogwen, Bethesda". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-24.