Ysgol Gynradd Nefyn
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | ysgol Gymraeg |
---|---|
Lleoliad | Nefyn |
Rhanbarth | Gwynedd |
Ysgol gynradd naturiol Gymraeg ydy Ysgol Gynradd Nefyn, ym mhentref Nefyn, Penrhyn Llŷn, Gwynedd. Sefydlwyd yr ysgol ym 1859.
Y pennaeth presennol yw Mrs Glenys Williams. Yn 2016 roedd gan yr ysgol 138 o ddisgyblion ar y gofrestr, gydag oddeutu 75% ohonynt yn dod o gartrefi lle siaradir y Gymraeg.[1] Mae talgylch yr ysgol yn cynnwys Llithfaen, Morfa Nefyn, Boduan a Nefyn ei hun.
Mae gan y disgyblion ddewis o ran ysgol uwchradd, wedi cwblhau blwyddyn 6 yn y system addysgol caent fynd ymlaen i naill ai Ysgol Botwnnog neu Ysgol Glan y Môr, Pwllheli.
- ↑ [1][dolen farw] Adroddiad Arolygiad Ysgol Gynradd Nefyn 2016.