Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | ysgol gynradd, ysgol ![]() |
![]() | |
Rhanbarth | Ceredigion, Cymru ![]() |
- Gweler hefyd: Ysgol Tal-y-bont
Ysgol gynradd Cymraeg yn Nhal-y-bont, Ceredigion ydy Ysgol Gynradd Gymunedol Tal-y-bont. Amrywiodd nifer y disgyblion o 103 i 112 rhwng 2000 a 2003. Daw 55% o'r disgyblion o gartrefi lle siaredir y Gymraeg, ond gall 99% ohonynt siarad yr iaith i safon iaith gyntaf. Disgrifiodd adroddiad Estyn 2003 safon yr addysg fel da, ac ar adegau yn dda iawn.[1]
Fe aiff plant o'r ysgol ymlaen i Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn Aberystwyth ym mlwyddyn 7 y system addysgol.
Agorwyd yr ysgol gyntaf yn Nhal-y-bont yn 1841, ac mae'r adeilad hwn yn dal i sefyll gerllaw safle'r ysgol presennol.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Arolygiad : 6 – 8 Mai, 2003. Estyn (9 Gorffennaf 2003).
- ↑ Talybont British/Board/Council School, Llangynfelin. Dyfed FHS.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan Ysgol Gymunedol Tal-y-bont[dolen marw]
- Cyfeiriadau at yr Ysgol Archifwyd 2011-09-28 yn y Peiriant Wayback. yn Papur Pawb, Mynegai Archifau Ceredigion