Ysgol Gynradd Gymunedol Aberporth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ysgol Gynradd Aberporth)
Ysgol Gynradd Gymunedol Aberporth
Arwyddair Mae hen wlad fyn
Sefydlwyd (Cyn 1934)
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Mr. Eirwyn Griffiths [1]
Lleoliad Aberporth, Aberteifi, Ceredigion, Cymru, SA43 2DA
AALl Cyngor Sir Ceredigion
Disgyblion 122[2]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 4–11
Lliwiau Coch
Gwefan aberporth.ceredigion.sch.uk

Ysgol gynradd gymunedol Gymraeg yw Ysgol Gynradd Gymunedol Aberporth, a leolir ym mhentref Aber-porth, Ceredigion.

Roedd 122 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol yn 2013. Dim ond 12% o'r disgyblion ddaeth o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith (lawr o 16% yn 2007).[2] Roedd yng nghategori A/B yn ôl polisi iaith yr Awdurdod Addysg Lleol yn 2001, ond erbyn 2007, roedd wedi newid i fod yn ysgol categori A, gan olygu mai Cymraeg yw prif iaith addysgu'r ysgol bellach.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Llawlyfr Ysgol Aberporth 2014. Ysgol Gynradd Gymunedol Aberporth. Adalwyd ar 1 Mai 2016.
  2. 2.0 2.1  Anwen Griffith (Mai 2013). Adroddiad Adolygiad Ysgol Gynradd Aberporth, 2013. Estyn. Adalwyd ar 1 Mai 2016.
  3.  Robert Huw Jones (2007). Adroddiad Adolygiad Ysgol Gynradd Aberporth, 2007. Estyn. Adalwyd ar 2011.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.