Yr Ysgwrn
![]() | |
Math | ffermdy, adeilad amgueddfa ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | Hedd Wyn ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Trawsfynydd ![]() |
Sir | Trawsfynydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 263.5 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8942°N 3.89974°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Ffermdy a'i leolir tua milltir i'r dwyrain o Drawsfynydd, Gwynedd, ydy Yr Ysgwrn. Mae'n dyddyn sydd wedi ei gosod ar ddau lawr â tô llechi, arferai eiddew orchuddio'r waliau.[1] Credir ei fod yn dyddio'n ôl i 1519.[2]
Dyma hen gartref y bardd enwog Hedd Wyn, a'r teulu yw'r perchnogion hyd heddiw. Mae'r Gadair Ddu (cadair enwog yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhenbedw, 1917) yn cael ei chadw yn y parlwr. Cyrhaeddodd y Gadair ar dren o Lerpwl, gyda lliain du drosti.
Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r Ysgwrn bellach yn adeilad rhestredig[3] Nid oes trydan na dŵr nac ystafell ymolchi yn y tŷ.[4] ym meddiant Parc Cenedlaethol Eryri.
Gofalodd Gerald Williams nai Hedd Wyn ar ôl y ffermdy a'r tir am flynyddoedd cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r Parc. Mae hefyd dros nifer o flynyddoedd wedi tywys ymwelwyr o gwmpas y tŷ gan weld holl gadairiau Hedd Wyn, chwech i gyd. Ni dderbyniodd unrhyw dâl am dywys yr ymwelwyr ac nid oes oriau agor, ond mae ymwelwyr wastad yn cael eu croesawu.[5]
Ym Mawrth 2012 cyhoeddwyd mai'r perchnogion newydd fydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, fydd yn gofalu am y ganolfan yn y dyfodol. Gobeithiant ddatblygu'r ffermdy yn Nhrawsfynydd yn ganolfan i adrodd hanes Hedd Wyn ac erchyllterau’r Rhyfel Byd Cyntaf.[6]
Ffilmio[golygu | golygu cod y dudalen]
Ffilmiwyd rhan o'r ffilm Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn. Cafodd y ffilm ei henwebu ar gyfer Oscar.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Llyfrau Llafar Gwlad 61: Llyfr Lloffion Yr Ysgwrn, Mawrth 2005, Gwasg Carreg Gwalch, ISBN 9780863819537, llyfr sy'n adrodd hanes Hedd Wyn a thaith y Gadair Ddu i'r Ysgwrn
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Postcard of Hedd Wyn's home, 'Yr Ysgwrn', Trawsfynydd, and bardic chairs, 1918, Casglu'r Tlysau
- ↑ Hwb fawr i gynllun Yr Ysgwrn. BBC (16 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 19 Tachwedd 2012.
- ↑ "Nodweddion Tirwedd Hanesyddol: Trawsfynydd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-01. Cyrchwyd 2009-11-24.
- ↑ Pryder am gartre bardd, BBC, 31 Gorffennaf 2009
- ↑ Keeper of Eisteddfod Icon Fears for Future, Daily Post, 30 Gorffennaf 2009
- ↑ http://www.alunffredjones.plaidcymru.org/news/2012/03/01/alun-ffred-yn-croesawu-achub-yr-ysgwrn/