Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr Hen Lyfrgell (y ffasâd yn wynebu'r Aes)
Y coridor teils, rhan o adeilad gwreiddiol 1880–82

Canolfan y Gymraeg ac amgueddfa hanes lleol yng Nghaerdydd yw Yr Hen Lyfrgell. Fe'i lleolir mewn adeilad rhestredig Gradd II* yn yr Aes yng nghanol y ddinas, sydd wedi bod â sawl swyddogaeth yn ystod ei hanes. Ystyrir yr adeilad yn waith pwysicaf y pensaer Fictoraidd lleol Edwin Seward[1] ac yn un o adeiladau cyhoeddus gorau'r cyfnod yn y brifddinas.[2]

Adeiladwyd y rhan gyntaf, gyda'r mynedfeydd ar Stryd y Drindod a Stryd Working, fel llyfrgell, amgueddfa, ysgol gelf ac ysgol y gwyddorau, ym 1880–82. Yr adeiladwyr oedd E. Turner a'i Feibion, a fu'n gyfrifol am godi'r mwyafrif helaeth o adeiladau cyhoeddus yng Nghaerdydd dros yr hanner canrif nesaf.[2] Adeiladwyd estyniad, sy'n cynnwys y ffasâd clasurol ar yr Aes, rhwng 1894 a 1896 ac fe'i agorwyd yn swyddogol gan Dywysog Cymru (Edward VII yn hwyrach) ar 27 Mehefin 1896.[2] Symudodd ysgolion y celfyddydau a'r gwyddorau i Goleg y Brifysgol ym 1890 a'r casgliadau celf i Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1923.[2] Parhaodd yr adeilad i wasanaethu'r ddinas fel llyfrgell canolog hyd 1988.

Agorwyd canolfan Gymraeg yn yr Hen Lyfrgell ym mis Chwefror 2016. Mae bellach yn bencadlys i saith mudiad gwahanol sy'n hybu a chefnogi'r Gymraeg.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. , t. 211
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Former Central Library, Castle. British Listed Buildings. Adalwyd ar 16 Ebrill 2016.
  3.  Pennod newydd i'r Hen Lyfrgell. BBC Cymru Fyw (23 Chwefror 2016). Adalwyd ar 16 Ebrill 2016.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]