Ynysoedd y Falklands

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Ynysoedd Malo)
Ynysoedd y Malvinas
Mathynysfor Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlFalkland Sound, Sant-Maloù Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,932 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnysoedd y Malvinas Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig, yr Ariannin Edit this on Wikidata
GerllawDe Cefnfor yr Iwerydd, Argentine Sea, Falkland Sound Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8°S 59.52°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Ynysoedd y Falklands neu Ynysoedd Malvinas (Saesneg: Falkland Islands, Sbaeneg: Islas Malvinas) wedi eu lleoli yn hemisffer y de yng Nghefnfor yr Iwerydd, 300 milltir (480 km) o'r Ariannin a 7,900 milltir o Loegr.[1]

Ceir tystiolaeth i bobl wladychu'r ynysoedd yn y cyfnod cynhanes.[2][3] Ganrifoedd yn ddiweddarach, yn 1765, ymgartrefodd morwyr o Loegr yng Ngorllewin y Falkland, ond cawsant eu gyrru oddi yno yn 1770 gan y Sbaenwyr, a oedd wedi cymryd drosodd yr anheddiad Ffrengig tua 1767. Tiriogaethau tramor y Deyrnas Unedig yw'r ynysoedd, bellach. Ymosododd byddin yr Ariannin ar yr ynysoedd ym 1982, a brwydrodd y Deyrnas Unedig i'w hadennill yn Rhyfel y Falklands. Mae dwy brif ynys, Dwyrain Falkland a Gorllewin Falkland, a 776 o ynysoedd llai.

Enw[golygu | golygu cod]

Daw enw Ynysoedd y Falklands o Swnt Falkland, y sianel rhwng y ddwy brif ynys, a gafodd ei enwi ar ôl Anthony Cary, 5ed Is-iarll Falkland gan y Capten John Strong a laniodd ar yr ynysoedd ym 1690. Daw'r enw Malvinas o'r enw Ffrangeg Iles malouines, oherwydd dyfodiad llawer o deithwyr o Sant-Maloù yn Llydaw. Enwir y ddinas honno, yn ei thro, am Sant Malo o Lancarfan, Bro Morgannwg.[4]

Hanes[golygu | golygu cod]

Darganfuwyd yr ynysoedd gan y Capten John Davis ar 9 Awst 1592, ond laniodd e ddim. Ym 1690, glaniodd y Capten John Strong a rhoi’r enw Falkland iddynt, ar ôl trysorydd y Llynges ar y pryd. Ym 1764, sefydlodd Ffrainc wladfa ar Ddwyrain Falkland ac enwi’r ynysoedd Les Iles Malouines. Ym 1765, sefydlodd Prydain gaer ar Ynys Saunders yn y gogledd orllewin. Ym 1766, trosglwyddodd Ffrainc Les Iles Malouines i Sbaen ac addaswyd yr enw yn Sbaeneg i Las Islas Malvinas. Ym 1774, rhoddodd y Saeson y gorau i Ynys Saunders. Ym 1816, hawliwyd Las Malvinas gan wladwriaeth newydd yr Ariannin a sefydlwyd presenoldeb milwrol yno rhwng 1820 ac 1833. Ym 1833, taflwyd yr Archentwyr allan ac ailfeddiannwyd y Falklands gan Brydain. Mae’r ynysoedd wedi aros yn Brydeinig hyd heddiw. I gadarnhau hawl Prydain i’r Falklands, cafodd nifer o bobl o Brydain eu perswadio i ymgartrefu ar yr ynysoedd. Mae poblogaeth yr ynysoedd heddiw (ac eithrio milwyr) tua 2,931 (2016).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. channel4.com; adalwyd 10 Ebrill 2024.
  2. [https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC8550247/ ncbi.nlm.nih.gov; adalwyd 10 Ebrill 2024.
  3. [ui.adsabs.harvard.edu; G. Hattersley-Smith (Mehefin 1983). Fuegian Indians in the Falkland Islands. Polar Record. 21 (135). Cambridge University Press: 605–06. Adalwyd 10 Ebrill 2024.
  4. etymonline.com; adalwyd 10 Ebrill 2024.