Neidio i'r cynnwys

Ymddiorseddu

Oddi ar Wicipedia
Yr Offeryn Ymddiorseddu, a arwyddwyd gan Edward VIII, brenin Lloegr (ym mhresenoldeb ei frodyr).

Y weithred gan frenin neu frenhines sydd yn teyrnasu o ildio'i hawl i'r goron yw ymddiorseddu.

Yn hanesyddol, gwelid y fath weithred yn bryderus, gan iddi fwrw amheuaeth ar y syniad o frenhiniaeth. Mewn brenhiniaeth gyfansoddiadol, y teyrn yw'r pennaeth ar y wladwriaeth ac mae ganddo freintiau seremonïol ond pwysig i'r broses wleidyddol. Gall ymddiorseddiad felly taflu cysgod ar gyfreithlondeb y llywodraeth a'r wladwriaeth oll. Darfu i benderfyniad Edward VIII, brenin y Deyrnas Unedig i ildio'r goron ym 1936 achosi argyfwng a elwir yn Helynt yr Ymddiorseddiad gan i'r llywodraeth, y teulu brenhinol, ac Eglwys Loegr i gyd ei wrthwynebu.

Ers diwedd yr Ail Ryfel Byd, mae ymddiorseddu wedi dod yn fwy dderbyniol am reswm henaint, yn enwedig yn Ewrop. Penderfynodd Wilhelmina, brenhines yr Iseldiroedd ymddiorseddu ym 1948, a gwnaed yr un peth gan ei holynwyr, Juliana ym 1980 a Beatrix yn 2013. Yn y flwyddyn 2013, ymddiorseddai hefyd y Pab Bened XVI (a oedd yn deyrn ar Ddinas y Fatican), Hamad, Emir Qatar, ac Albert II, brenin Gwlad Belg, ac yn 2014 Juan Carlos I, brenin Sbaen.[1] Ildiodd Akihito, Ymerawdwr Japan, Orsedd y Blodyn Mihangel i'w fab Naruhito yn 2019.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Brenin newydd i Sbaen", Golwg360 (19 Mehefin 2014). Adalwyd ar 4 Mehefin 2019.
  2. "Ymerawdwr Japan yn dod â’i deyrnasiad i ben", Golwg360 (30 Ebrill 2019). Adalwyd ar 4 Mehefin 2019.