Yfed

Oddi ar Wicipedia
Mae'r weithred o yfed yn cael ei phortreadu mewn cerfluniaeth — mae'r ffigur yn defnyddio croen dŵr traddodiadol.
Gerrit van Honthorst (1624)

Yfed yw'r weithred o amlyncu dŵr neu hylifau eraill i mewn i'r corff drwy'r geg. Mae angen dŵr ar gyfer llawer o brosesau ffisiolegol bywyd. Mae cymeriant dŵr gormodol ac annigonol yn gysylltiedig â phroblemau iechyd.[1]

Dulliau[golygu | golygu cod]

Pan fydd hylif yn cael ei arllwys i geg ddynol agored, caiff y broses lyncu ei chwblhau gan peristalsis sy'n cludo'r hylif i'r stumog; mae llawer o'r gweithgareddau yn cael eu cynorthwyo gan ddisgyrchiant. Gellir arllwys yr hylif o'r dwylo neu gellir defnyddio offeryn yfed fel cwpanau neu gwydrau. Mae babanod yn defnyddio dull sugno lle mae'r gwefusau'n cael eu gwasgu'n dynn o gwmpas ffynhonnell, fel mewn bwydo ar y fron [2]

Hydradu a dadhydradu[golygu | golygu cod]

Fel bron pob ffurf arall ar fywyd, mae pobl angen dŵr ar gyfer hydradiad meinwe. Mae diffyg hydradiad yn achosi syched, awydd i yfed sy'n cael ei reoleiddio gan yr hypothalamws mewn ymateb i newidiadau cynnil yn lefelau electrolytau a chyfaint gwaed y corff. Gelwir dirywiad yng nghyfanswm dŵr y corff yn ddadhydradu ac yn y pen draw bydd yn arwain at farwolaeth.

Diota[golygu | golygu cod]

Defnyddir y term “yfed” yn aml yn drawsenwad ar gyfer yfed diodydd alcoholig. Mae'r rhan fwyaf o ddiwylliannau drwy gydol hanes wedi ymgorffori nifer o'r amrywiaeth eang o "ddiodydd cryf" i'w prydau, dathliadau, seremonïau, llyncdestynau ac achlysuron eraill.[3] Mae tystiolaeth o ddiodydd eplesu mewn diwylliant dynol yn mynd yn ôl mor gynnar â'r Cyfnod Neolithig,[4] a gellir dod o hyd i'r dystiolaeth ddarluniadol gyntaf yn yr Aifft tua 4,000 CC.[5]

Mae yfed alcohol wedi datblygu'n amrywiaeth o ddiwylliannau yfed sefydledig ledled y byd. Er gwaethaf ei boblogrwydd, mae yfed alcohol yn achosi risgiau iechyd sylweddol. Mae camddefnyddio alcohol a dibyniaeth ar alcoholiaeth yn drafferthion cyffredin mewn gwledydd datblygedig ledled y byd.[6] Gall cyfradd uchel o yfed hefyd arwain at sirosis, gastritis, gowt , pancreatitis, pwysedd gwaed uchel, gwahanol fathau o ganser, a nifer o afiechydon eraill.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Geiriadur y Brifysgol- Yfed adalwyd 8 Ebrill 2019
  2. Flint, tt. 137–138.
  3. Gately, tt. 1–14.
  4. Patrick, Clarence Hodges. Alcohol, Culture, and Society. Gwasg AMS, 1952, t. 13.
  5. Hanson, David. "Ancient Period". History of Alcohol and Drinking around the World. State University of New York. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-19. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2014.
  6. "Global Status Report on Alcohol and Health" (PDF). World Health Organization. World Health Organization. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2014.
  7. Fiebach, t. 387.
Llyfryddiaeth