Y galdrist gulddail

Oddi ar Wicipedia
Cephalanthera longifolia
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Urdd: Asparagales
Teulu: Orchidaceae
Genws: Cephalanthera
Rhywogaeth: C. damasonium
Enw deuenwol
Cephalanthera longifolia
(Philip Miller) Druce (1906)
Cyfystyron
  • Serapias damasonium Mill. (1768) (Basionym)

Tegeirian yw Y galdrist gulddail sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Orchidaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Cephalanthera longifolia a'r enw Saesneg yw Narrow-leaved helleborine.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Caldrist Culddail.

Mae'n blanhigyn blodeuol nodedig ac fel eraill o deulu'r Orchidaceae, mae'r blodau'n hynod liwgar mae'n cynhyrchu arogl da. Enw'r genws yw Orchis, sy'n tarddu o Hen Roeg ὄρχις (órkhis), sy'n golygu caill; mae hyn yn cyfeirio at gloron deuol rhai tegeirianau.[2]

Ecoleg[golygu | golygu cod]

Dyma ddywed yr Atlas Planhigion [2]: Planhigyn cynhenid lluosflwydd rheisomaidd a ganfyddir ar amryw fathau o goetiroedd pridd calchog. Mae’n hoffi clytiau parhaol o olau yn y coed ar lethrau serth, caregog, ar hyd ymylon y goedwig, ar hyd ochrau llwybrau, neu mewn prysglwyni.

Bu trai pendant ar y planhigyn yn y 19g a’r 20g, yn enwedig cyn 1970. Er y byddai’r ffashiwn o gasglu tegeiriannau wedi achosi rhywfaint o golledion mae’n debyg mai darfod ar fathau arbennig o reoli coetiroedd a phlannu coed conifferaidd oedd y prif reswm, y ddau yn esgor ar awyrgylch llawer tywyllach.

Cofnodion hanesyddol[golygu | golygu cod]

“Tegeirian yr Allt Wen”, Llanddeiniolen: Yn 1821 argraffwyd llyfr yn dwyn yr enw Tourist’s Guide through the County of Caernarvonshire gan y Parch. Peter Bayley Williams, rheithor Llanrug ar y pryd. Cofrestrodd enwau amryw o flodau a dyfai yn y fro. Un o’r planhigion hyn oedd tegeirian prin iawn yn tyfu yng nghoed yr Allt Wen ar ochr Llanddeiniolen o Lyn Padarn sef Cephalanthera longifolia ac yn y Saesneg long-leaved helleborine.[3]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Joan Corominas (1980). Breve Diccionario Etimológico de la Lengua Castellana. Ed. Gredos. t. 328. ISBN 84-249-1332-9.
  3. Pigion o‘r Papurau Bro ym Bwletin Llên Natur 53 [1], a godwyd o Les Larsen “Ar Lwybr Natur” (yn Eco’r Wyddfa 1982) a’i lun a dynnwyd ar y pryd.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: