Y Pla Du yng Nghymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cafodd pandemig Y Pla Du yng Nghymru effaith sylweddol ar fywyd trigolion Cymru yn ail hanner y 14g. Ni ddiflanodd yn llwyr o'r wlad tan ddiwedd yr Oesoedd Canol ond bu ar ei anterth yn nhrydydd chwarter y 14g. Enw arall ar y pla yng Nghymru oedd "Haint y nodau".

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Y "Pla Du" yw'r enw a defynyddir am y pandemig gwaethaf a gofnodwyd yn hanes y ddynoliaeth. Dechreuodd yn ne-orllewin Asia ac ymledodd i Ewrop erbyn diwedd y 1340au. Credir i o leiaf 75 miliwn o bobl farw o'r pla, gan gynnwys o leiaf draean o boblogaeth Ewrop. Cafodd y pla effaith fawr ar Ewrop, gan achosi nifer o newidiadau cymdeithasol. Lleihaodd awdurdod yr Eglwys Gatholig, ac arweiniodd at erlid Iddewon. Credir fod y pla wedi ei achosi gan Yersinia pestis, sy'n endemig yng nghanolbarth Asia. Mae'r bacillus yn cael ei gario mewn chwain sy'n byw ar lygod mawr, ond yn medru brathu bodau dynol hefyd. Efallai fod y pla wedi ei gario tua'r dwyrain a'r gorllewin gan fyddinoedd y Mongoliaid. Roedd dau fersiwn o'r pla, y math biwbonig, a geid o frathiadau chwain oedd yn cario'r haint, a'r math niwmonig, y gellid ei ddal trwy anadlu.

Y pla yng Nghymru[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y pla wedi cyrraedd Caerfyrddin a'r Fenni erbyn Mawrth 1349. Cofnododd y bardd Ieuan Gethin o Flaenau Morgannwg fod pob un o'i feibion wedi marw o'r pla. Cred John Davies fod o leiaf chwarter poblogaeth Cymru wedi marw yn 1349-1350. Efallai fod y pla wedi bod yn llai angheuol yn yr ardaloedd mynyddig nag ar y gwastadeddau. Credir fod effaith y Pla Du ar yr economi wedi bod yn rhannol gyfrifol am yr anfodlonrwydd a arweiniodd at wrthryfel Owain Glyndŵr.[1]

Disgrifiadau cyfoes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ceir disgrifiad o'r Pla Du, neu o leiaf sôn amdano, mewn cerddi gan nifer o feirdd o'r cyfnod, yn cynnwys Ieuan Gethin o Forgannwg.

Mewn dau gywydd, cyfeiria Ieuan at golli pump o'i blant i "haint y nodau", sef Siôn ac Ifan a Morfudd a Dafydd a Dyddgu. Roedd wedi gaddo rhodd o aur i'r eglwys pe bai ei fab hynaf, Siôn, yn dianc o afael y pla:

Addewaid ar weddïon
Ei bwys o aur er byw Siôn ;
Ar Dduw er a weddïais
Ni chawn Siôn mwy na chan Sais![2]

Disgrifia'r chwarren oedd mor nodweddiadol o'r haint. Mor fychan yw ond mae'n "difa dyn":

Gŵyth llid yw gwaetha lle dêl,
Glain a bair ochain uchel.../
Chwarren bach ni eiriach neb ;
Mawr ei ferw mal marworwyn,
Modfedd a bair diwedd dyn.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. John Davies Hanes Cymru (Penguin, 2007).
  2. 2.0 2.1 G.J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 29.