Y Llythyr at yr Hebreaid
Gwedd
Y Beibl |
---|
Y Testament Newydd |
Pedwerydd llyfr ar bymtheg y Testament Newydd yn y Beibl Cristnogol yw Y Llythyr at yr Hebreaid (talfyriad: Heb.). Credwyd ar un adeg mai'r Apostol Paul oedd yr awdur, ond amheuir hynny heddiw. Ymddengys iddo gael ei ysgrifennu yn y cyfnod rhwng tua 62 a 69 OC. Y talfyriad arferol yw 'Heb.'
Mae'r llyfr yn gosod Crist fel archoffeiriad uwchlaw offeiriaid yr Iddewon ac yn datgan fod yr hen gyfamod rhwng yr Iddewon a Duw, y cyfeirir ato yn yr Hen Destament, yn cael ei dirymu gan fod cyfamod newydd gyda dyfodiad Crist. Amlwg yw fod y llythyr wedi'i anelu at yr Iddewon hynny oedd yn troi i'r ffydd newydd neu'n ystyried gwneud hynny.