Llyfrgell Brydeinig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Llyfrgell Brydeinig)
y Llyfrgell Brydeinig
Mathllyfrgell genedlaethol, reference library, llyfrgell ymchwil, universal library, corff cyhoeddus an-adrannol, atyniad twristaidd, adeilad llyfrgell Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Camden
Sefydlwyd
  • 1 Gorffennaf 1973 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadSt Pancras, Thorp Arch Trading Estate Edit this on Wikidata
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.52944°N 0.12694°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ2997082897 Edit this on Wikidata
Cod postNW1 2DB Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethAdran Ddigidol Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Llyfrgell genedlaethol y Deyrnas Unedig ydy'r Llyfrgell Brydeinig (Saesneg: British Library).[1] Lleolir y llyfrgell yn St. Pancras, Llundain. Mae'n un o lyfrgelloedd ymchwil pwysica'r byd; yn dal dro 150 miliwn o eitemau ym mhob iaith a fformat;[2] llyfrau, newyddiaduron, papurau newydd, cylchgronau, recordiau sain a cherddoriaeth, breinleni, cronfa ddata, mapiau, stampiau, argraffiadau, darluniau a llawer mwy, gan ei wneud yn gasgliad mwya'r byd. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys tua 14 miliwn o lyfrau,[3][4] ynghyd â casgliad ychwanegol o lawysgrifau sylweddol ac eitemau hanesyddol yn dyddio'n ôl i 2000 CC.

Y Llyfrgell Brydeinig, gyda cherflun gan Eduardo Paolozzi

Llawysgrifau Cymraeg[golygu | golygu cod]

Cedwir sawl llawysgrif Gymraeg yn y Llyfrgell Brydeinig. Gwaddolwyd y rhan fwyaf ohonynt i'r llyfrgell gan y Gwyneddigion yn hanner cyntaf y 19g, yn y dyddiau cyn sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Maent yn cynnwys casgliadau'r Morysiaid, yn cynnwys rhai yn llaw Lewis Morris ei hun, ac eraill a gasglwyd gan Owain Myfyr ac aelodau eraill o'r gymdeithas, sy'n cynnwys sawl llawysgrif ganoloesol hefyd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Reitz, Joan M. (2004). Dictionary for Library and Information Science. Libraries Unlimited. t. 103. ISBN 978-1-59158-075-1.
  2. "Collection Development Policy". British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-16. Cyrchwyd 2011-01-15.
  3. "The British Library; Explore the world's knowledge". British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-03-26. Cyrchwyd 2010-04-12.
  4. "Encyclopædia Britannica Article: British Library". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-15. Cyrchwyd 2008-04-29.
Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.